Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly, wrth geisio bod yn ddiwyd i gadw "undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd," syrthiodd i'r amryfusedd o beidio, mewn rhan, draethu "holl gynghor Duw" i'w wrandawyr. Gwelwn yma, ei fod yn fyr o'r gwroldeb moesol hwnw ag sydd yn angenrheidiol i ddysgawdwyr cyhoeddus y bobl y cyfryw wroldeb ag a alluoga un i gyhoeddi yr hyn a ystyria yn wirionedd, yn annibynol ar olygiadau y rhai a'i gwrandawent. Esgorodd y diffyg yma ynddo ar ganlyniadau dinystriol i heddwch a chysur yr eglwys ar ol ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Davies yn bleidiol neillduol hefyd i ryddid cydwybod, a dadleuai yn wresog dros hawl dyn i farnu drosto ei hun, a bod yn rhydd-ymofynydd am y gwirionedd. Ac yma drachefn, nid oedd wedi bod yn ddigon gochelgar, oblegid gwelid tuedd yn fuan yn yr eglwys i ddefnyddio eu rhyddid yn y fath fodd ag oedd yn ymylu ar benrhyddid. Beth bynag a ystyriom yn ddiffygion ynddo, rhaid i ni gydnabod ei ragoriaethau fel pregethwr syml, eglur, a phrofiadol, ac agos at ddeall a theimladau ei wrandawyr. Anfynych y pregethai heb dywallt dagrau, ac ennillai y gynnulleidfa i'r un teimladau. Hoff bwnc ei bregethau fyddai, cariad Duw yn anfon ei Fab i'r byd i farw dros bechaduriaid, a'r angenrheidrwydd am santeiddrwydd calon a buchedd. Bu farw Mr. Davies o'r darfodedigaeth, Ebrill 12, 1806, yn 55 mlwydd oed, ac wedi bod yn llafurio yn y weinidogaeth am 30 mlynedd.

DAVIES, HUGH, a anwyd yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1665. Derbyniwyd ef yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn Rhydwilym, sir Benfro, pan yn 30 oed, ac urddwyd ef yn weinidog arni. Symudodd oddiyno i Abertawe, o ba le yr ymfudodd, yn 1711, i Pennsylfania, America. Dewiswyd Mr. Davies yn weinidog yno ar yr eglwys yn Great Valley, lle yr ymsefydlasai. Parhaodd i lafurio yno yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y fl. 1753, pan yn 88 oed. Yn mlynyddau olaf ei fywyd, dyoddefai boenau dirfawr oddiwrth ei fraich, fel yr oedd ei einioes wedi myned yn faich iddo. Mewn cysylltiad â hyn, adroddir hanesyn hynod, sef iddo ar ol defnyddio amryw foddion a hyny yn hollol aneffeithiol, anfon am henuriaid yr eglwys i'w eneinio âg olew, yn ol Iago v. 14, &c. Y canlyniad o hyn fu, iddo dderbyn iachâd llwyr, ac ni ddychwelodd y poen mwyach. Ymddangosodd hyn yn hanes y Bedyddwyr yn Mhennsylfania, mewn llyfr a argraffwyd yn y fl. 1770, o waith un Morgan Edwards. Derbyniasai yr ysgrifenydd y ffaith gan Mr. John Davies, yr hwn fu yn fugail ar yr eglwys am amryw flynyddau ar ei ol, ac yr oedd efe yn un o'r henuriaid a gymerasant ran yn yr eneiniad.


DAVIES, JAMES, a anwyd yn Mlaen hoffnant-isaf, plwyf Penbryn, Ceredigion, Rhagfyr 22, 1800. Ymddengys iddo gael manteision addysg gwell na'r cyffredin yn ei ieuenctyd, oblegid fod ei dad yn cadw ysgol, ac