Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a threuliodd beth amser yn Llanstephan. Ond ni fu y cyfnewidiad hwnw o nemawr les iddo. Dechreuodd waethygu yn gyflym; ac ni chafodd ond prin ddychwelyd yn ol i Loegr, cyn i'w ysbryd ehedeg i wlad nad oes yr un o'i phreswylwyr yn dywedyd mai claf ydyw. Bu ei fywyd yn ddiargyhoedd, ac yr oedd duwioldeb yn ymddysgleirio yn danbaid yn mhob gweithred a gogwyddiad o'i eiddo. Anfynych y ceid neb yn meddu ar galon mor haelfrydig; yr oedd yn hollol anfydol-yn gymaint felly a bod yn niweidiol iddo ei hun. Yr oedd o dymher addfwyn a gostyngedig, ac yn hollol ddiymhòngar. Fel awdwr, nid oedd Mr. Davies yn anenwog, ac mae yr hyn a adawodd ar ei ol yn profi y gallasai ragori llawer yn ychwaneg, pe caniatasai amgylchiadau iddo droi ei sylw yn fwy at lenyddiaeth. Dyma restr o'i weithiau:-China and her Spiritual Claims; Memoirs of the Rev. Samuel Dyer; An Appeal to the Reason and Good Conscience of Catholics; Rest--Lectures on the Sabbath. Efe hefyd oedd cyhoeddwr y gweithiau canlynol:-Letters of the Rev. Samuel Dyer to his Children; Lectures on Christian Theology, by the late Rev. Dr. Payne; and The Works of the late Rev. Dr. Edward Williams, Rotherham. Efe a ysgrifenodd y nodiadau ar Bechod Gwreiddiol a Bedydd, y rhai a welir yn ngwaith y Dr. Williams.

DAVIES, EVAN, ydoedd enedigol o Landyssul. Enw ei dad ydoedd Mr. James Davies, Cilgwyn; ac enw ei fam oedd Mary, yr hon fu byw flynyddau yn Nghlynair, plwyf Llanllwni, ar ol claddu ei phriod. Anfonwyd ef i ysgol Caerfyrddin, dan ofal y Parch. Jenkin Jenkins; ac wedi gorphen ei efrydiaeth yno, urddwyd ef yn 1776 yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn Llanedi. Bu ár hyd ei oes yn hynod lafurus, a bendithiwyd ei weinidogaeth yn neillduol, fel y profir oddiwrth y nifer mawr o eglwysi a sefydlwyd trwy ei offerynoliaeth ar hyd a lled y wlad. Yn mysg eraill, gellir enwi y rhai canlynol:-Penbre, Bethania, Cross Inn, a Chydweli. Hefyd y mae Eglwys ac addoldy Capel Als, Llanelli, yn ddyledus iddo ef am eu bodoldeb cyntaf. Meddai ragoriaethau mawr fel dyn, fel pregethwr, ac fel gweinidog. Yr oedd yn ddyn deallus, ac o synwyr cyffredin cryf; a mawr berchid ef fel dyn gonest a chywir. Mewn achosion o anghydfod rhwng cymydogion â'u gilydd, appelid yn fynych at ei farn ef; a chymaint oedd ei ddylanwad, fel y boddlonent yn rhwydd i'w ddedfryd ef. A dywedir mai ychydig o achosion a ddygwyd i'r llys cyfreithiol yn y gymydogaeth tra y bu efe byw. Yr oedd hefyd yn dangnefeddwr heb ei ail yn yr eglwys—casäai o'i galon bobpeth a dueddai yn y gradd lleiaf i fagu ysbryd dadleuaeth rhwng yr aelodau. Er y cyhoeddai o'r pulpud rai o athrawiaethau mawrion yr efengyl, a hyny gyda grym ac eglurdeb neillduol, ni chyffyrddai nemawr ddim â rhai pynciau eraill ag y mae Cristionogion yn gwahaniaethu yn eu barn arnynt; ac