Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Breese, Llanbrynmair, yr hwn a ddeuai yno yn achlysurol, yn dra bendithiol iddo. Hyn, yn nghyda'r addysg grefyddol dda a dderbyniasai yn moreu ei oes, fu yn foddion ei dröedigaeth. Wedi ei dderbyn i'r eglwys, teimlai cyn hir awydd mawr am fod o wasanaeth i'r achos mewn modd cyhoeddus. Ond gan ei fod yn anadnabyddus, ac yn fyr o'r moddion angenrheidiol er ei gymhwyso i waith y weinidogaeth, ymddangosai ei achos am dro yn hynod dywyll. Yn yr amser priodol, modd bynag, agorodd Rhagluniaeth y ffordd iddo. Cymerodd y Parch. Daniel Evans, Mynyddbach, yr hwn am dymmor a wasanaethai yr eglwys yno, ddyddordeb neillduol ynddo, a gosododd ei achos o flaen yr eglwys. Y canlyniad o hyn fu iddo gael ei anfon i Athrofa Neuaddlwyd, o dan ofal yr hybarch Dr. Phillips. Wedi treulio blwyddyn a banner yno, cafodd dderbyniad i'r Western Academy, Exeter, yn y flwyddyn 1829. Bu ei gynnydd yno yn mhob cangen o wybodaeth yn dra chyflym, a choleddai y llywydd, y Parch. Dr. George Payne, feddwl mawr o hono fel ysgolhaig a Christion. Ar ol gadael y Coleg, ymsefydlodd yn Great Torrington, North Devon; ond ni fu ei arhosiad yno yn faith, oblegid gosodasai ei feddwl ar fod yn genadwr. Felly yn Ebrill, 1835, urddwyd ef yn nghapel Wycliffe, yn genadwr i'r Chineaid, ac efe a anfonwyd i Penang. Llafuriodd yno yn ddiflino, gan gadw ysgol Gristionogol ar gyfer y plant brodorol, yn gystal a'r milwyr Seisnig oeddynt yn aros yn y lle, ac ar yr un pryd astudiai y Chinaeg er mwyn cymhwyso ei hunan yn mhellach i waith y genadaeth. Ar ol bod yno yn llafurio gyda graddau mawr o lwyddiant am bedair blynedd, gorfodwyd ef o herwydd methiant ei iechyd i ddychwelyd i Loegr. Yno bu am ddwy flynedd yn ngwasanaeth y Gymdeithas fel dirprwywr i amddiffyn a dadleu ei hawl trwy'r wlad. Yn 1842, efe a benodwyd yn arolygydd y Boys' Mission School yn Walthamston. Yn 1844, derbyniodd alwad oddiwrth yr Eglwys Gynnulleidfaol yn Richmond, Surrey, i ddyfod i'w bugeilio, â'r hyn y cydsyniodd, a bu yno yn gweinidogaethu am 13 o flynyddoedd, gyda pharch a chymeradwyaeth gyffredinol. Ac fel arwydd o hyny, anrhegodd yr eglwys ef â phwrs yn cynnwys £200, ar ei waith yn rhoddi i fyny ei bugeilio. Ar ol hyny, bu yn byw yn Heywood, Caerludd, a Dalston. Yn y lle olaf hwn, agorwyd ysgol rïanod gan ei wraig a'i ferched, a chymerai yntau ei hunan ryw gymaint o'r gwaith; a phregethai yn achlysurol yn Hackney a'r gymydogaeth. Yn 1863, ymfudodd i Hornsey; ac yno cyfarfu â phrofedigaeth chwerw, sef colli ei unig fab oloesawl (surviving). Effeithiodd hyn yn fawr arno, ac ar y 18fed o Fehefin, yr un flwyddyn, sef 1864, hunodd yntau yn yr Iesu. Claddwyd ef a'i ddau fab yn nghladdfa y teulu yn Abney Park, a gadawyd ei wraig a'i ddwy ferch i alaru ar ei ol. Dyoddefodd Mr. Davies lawer y flwyddyn olaf o'i fywyd oddiwrth y gewynwst; ac, yn ol cyfarwyddyd ei feddygon, talodd ymweliad â Chymru, er mwyn newid awyr,