Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diweddar Barch S. Griffiths, a bu gyda'r gwr hwnw am dymmor yn yr ysgol. Aeth wedi hyny i Athrofa y Neuaddlwyd, dan ofal yr hybarch Dr. Phillips. Wedi gorphen ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Gynnulleidfaol Taihirion, Morganwg, lle yr urddwyd ef yn y flwyddyn 1838; ac yno yr arhosodd am dymmor i weinidogaethu. Tra yno, priododd ferch henaf y Parch. S. Griffiths, Horeb, o'r hon y bu iddo saith o blant. Symudodd o'r fan hòno drachefn i Glyn Taf, Morganwg, lle yr ymsefydlodd hyd ei farwolaeth, yr hon a gymerodd le Gorphenaf 16, 1851. Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'i fywyd, lluddiwyd ef gan afiechyd i gyflawni ei ddyledswyddau gweinidogaethol; ond darfu i'r Eglwys, er nad oedd mewn un modd yn gyfoethog, gyfranu yn haelionus tuag at ei gynnaliaeth yn ystod yr amser hwnw. Yr oedd Mr. Davies yn bregethwr da, yn gymydog cariadlawn, yn dad tyner, yn briod serchog, ac yn weinidog llafurus.

DAVIES, EVAN, Hwlffordd, a anwyd yn agos i Lanbedr, tua'r flwyddyn 1694. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Hoxton, o dan ofal yr enwog Dr. Ridgley a Mr. John Evans. Wedi gorphen ei efrydiaeth, ordeiniwyd ef yn weinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Yn 1741, penodwyd ef yn athraw ar Athrofa yr enwad, yr hon yn flaenorol oedd yn agos i'r Gelli, yn sir Frycheiniog; ond yn awr a symudwyd ato ef i Hwlffordd, lle y mae hyd heddyw. Symudwyd hi am dymmor, modd bynag, i Gaerfyrddin yn 1743, a'r pryd hyny yr oedd Mr. Samuel Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn y dref hòno, yn gydathraw âg ef Gweinidogaethai Mr. Davies ar yr un pryd yn yr Eglwys Ymneillduedig yn Llanybri. Ond o herwydd rhyw anghydfod neu gilydd rhwng y ddau athraw, ymadawodd Mr. Davies am Loegr, a chymerodd ofal Eglwys Billerica, yn Essex. Bu yn offeryn i sefydlu achos yn Bwlchnewydd, ac efe fu'r gweinidog cyntaf yno; ac yno arhosodd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Hydref 16eg, 1770, pan yn 76 mlwydd oed. Ymddengys ei fod yn ddyn dysgedig a doniol iawn.

DAVIES, EVAN, Richmond, a anwyd yn Hengwm, plwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1805, o deulu tra chrefyddol. Collodd ei fam pan oedd tua thair oed, ac ar hyny symudodd ei dad gyda'r gweddill o'r teulu i Gaerludd, gan ei adael yntau ar ol dan ofal ei fodryb. Ar ol gwasanaethu ei dymmor fel egwyddorwas gyda thrafnidiwr yn y gymydogaeth, aeth yntau ar ol ei dad i'r brif-ddinas. Perthynai yr oll o'i berthynasau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ond o herwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd bwriodd ef ei goelbren gyda'r Annibynwyr, ac ymunodd â'r Eglwys yn Little Guildford Street, Southwark, yr hon oedd o dan ofal y Parch. D. S. Davies. Bu gweinidogaeth y gwr hwnw, yn nghydag eiddo y Parch.