Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy yr hwn y derbyniodd y fath niweidiau mewnol, fel nas gallasai y meddygon goreu wneud un llesâd iddo. Efe a hunodd yn yr Iesu y Sabbath olaf yn Gorphenaf, 1864, yn 73 mlwydd oed, wedi treulio 52 mlynedd yn y weinidogaeth, 50 o ba rai a dreuliodd yn Pantteg. Ysgrifenodd Mr. Davies lawer iawn yn ystod ei oes i'r gwahanol gyfnodolion, ac mae ei ysgrifau ar bynciau duwinyddol yn britho dalenau cyhoeddiadau yr enwad y perthynai iddo. Dygodd yn mlaen trwy eu cyfrwng amryw ddadleuon poeth ar wahanol bynciau, a gorfodid ei wrthwynebwyr i gyfaddef mai nid dyn cyffredin yr oeddynt yn ymwneud âg ef. Bu yn golygu y Tywysydd a'r Cronicl Cenadol am flynyddoedd meithion. Cyhoeddodd hefyd y llyfrau canlynol:-1. Sylwadau ar Sefyllfa Prawf Dyn dan yr Efengyl. Achosodd y llyfryn hwn gryn gynhwrf ar y pryd trwy y Dywysogaeth, a bu yn bwnc dadl frwd am amser maith yn y gwahanol gyhoeddiadau. 2. Traethawd ar godi yn foreu. 3. Pregeth ar Ffurf yr Athrawiaeth Iachus, yr hon a draddodwyd ganddo yn agoriad addoldy Ebenezer, Llansadwrn, yn y flwyddyn 1831. 4. Cyfarwyddwr Duwinyddol, sef math o holwyddoreg. Efe hefyd yw awdwr y Sylwadau ar y Dadguddiad, yn Meibl y Parch. D. Davies, Abertawe. Gadawodd ar ei ol, mewn llawysgrifen, draethawd a fwriadai ei gyhoeddi,' dan yr enw Gwinllan y Gweithio, neu Gorff o Dduwinyddiaeth. Gobeithio y bydd i ryw un gymeryd at y gwaith o ddwyn hwn, yn nghydag ysgrifau gwerthfawr eraill yr hen weinidog parchus, trwy y wasg, oblegid byddai yn golled fawr i ddim o honynt i fyned ar ddifancoll.

DAVIES, DAVID (Syr), K. C. H., M. D., oedd unig fab Robert Davies, Ysw., o'r Llwyn, Ceredigion, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1793. Ei fam ydoedd ferch ieuangaf John Price, Ysw., Rhosy bedw. Priododd yn 1819 â Mary Anne, merch y Parch. John Williams, Ystradmeurig. Meddyg ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys iddo enwogi ei hunan yn fawr o herwydd ei wybodaeth eang a'i fedrusrwydd. Dygai yn mlaen ei broffeswriaeth ar y cyrtaf yn Hampton; ond gadawodd y lle hwnw ar ei benodiad i fod yn Physygwr i Gwilym IV. a'r ddiweddar Dywysoges Waddolog. Buasai yn gweinyddu yn achlysurol iddynt er's pum' mlynedd cyn eu hesgyniad i'r orsedd Derbyniodd urdd y Guelphic Order gan y teyrn hwnw ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth; a gwnaed ef yn Farchog gan y Frenhines Victoria yn fuan ar ol ei hesgyniad. Bu farw yn Lucca, Itali, Ebrill, 1865, yn 72 oed.


DAVIES, DAVID, oedd frodor o gymydogaeth Horeb, Ceredigion, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1811. Derbyniwyd ef pan yn bur ieuanc yn aelod o'r Eglwys yn y lle hwnw, yr hon oedd dan ofal_gweinidogaethol y