Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egwyddorion gwahanol i'r eiddo ef, etto cymaint oedd rhyddfrydigrwydd ei galon, fel na roddai achos tramgwydd i neb, ond yn hytrach ennillai barch cyffredinol gan bawb a'i hadwaenai. Yn 1840, sef yn nghanol ei nerth a'i ddefnyddioldeb, gafaelwyd ynddo yn ffyrnig gan dwymyn yr ymenydd; ond er iddo ymadferu yn raddol o honi, etto ni chyrhaeddodd byth mo'i nerth a'i yni blaenorol. Yr oedd ei alluoedd meddyliol o radd uwch na'r cyffredin wrth natur, ac yr oedd wedi eu diwyllio eilwaith gyda phob dyfalwch. Cyrhaeddodd enwogrwydd anghyffredin fel pregethwr, ac mae ei enw yn ddigon adnabyddus erbyn hyn trwy y Dywysogaeth. Nid oedd yr un, efallai, y tebygai fwy iddo yn ei ddull o draddodi na'i hen weinidog, yr hybarch Dr. Phillips. Byddai ei eiriau bob amser yn hynod syml a phriodol, yn wastad i'r pwynt; ei brif amcan bob amser fyddai egluro ei feddwl gyda'r nifer lleiaf dichonadwy o eiriau: syrthiai ar ei bwnc ar unwaith, a thriniai ef yn fyr, eglur, ac i bwrpas. Yr ymarferol yn hytrach na'r athrawiaethol a gaffai fwyaf o le yn ei bregethau ; dadleuai yn gryf hefyd y dylai dyn astudio ei weddi yn gystal a'i bregeth, ac argymhellai hyn i sylw gweinidogion ieuainc ac eraill yn barhaus. Fel dyn, yr oedd yn feddiannol ar synwyr naturiol cryf anghyffredin, a deallai y natur ddynol yn ei holl amryfath agweddau yn neillduol dda. Perthynai iddo lawer o rinweddau gwych, a byddai ei gymeriad crefyddol yn dysgleirio yn barhaus mewn gweithredoedd o haelioni a chymwynasgarwch. Nid oedd dim tebyg i ragfarn na dallbleidiaeth yn perthyn iddo; yr oedd ei enaid yn rhy eang i feddwl fod pob peth rhagorol yn gyfyngedig i gylch yr enwad y perthynai efe ei hun iddo. Estynai ddeheulaw cymdeithas i bawb ag yr oedd achos Mab Duw yn agos at eu calon, ac ni dderbyniai ddim fel prawf o grefydd ond gwir ufudddod i orchymynion Crist. Yr oedd yn hynod ddiariangar; fel prawf o hyn, gellir crybwyll y ffaith ganlynol :-Pan gynnygiodd yr eglwys oedd dan ei ofal wneud ychydig godiad yn ei gyflog, ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth, dywedai fod cymaint swm yn ormod-y gwnelai llai y tro, rhag troseddu ar gasgliadau eraill, ond ei fod yn ymdeimlo yr un mor ddiolchgar am y cynnyg er hyny. Treuliodd oes hynod lwyddiannus fel gweinidog, ac un o angenrheidrwydd yn llawn gweithgarwch. Teith iodd lawer i gyfarfodydd yr Ysgolion Sabbathol, cyfarfodydd cenadol, a chymanfaoedd, &c., mewn gwahanol ranau o'r wlad. Fel arwydd o'r parch mawr a goleddai yr eglwysi tuag ato, penderfynwyd ei anrhegu ar flwyddyn ei jubili â rhyw gydnabyddiaeth am ei lafur maith yn eu plith; ac er nad oedd yn mysg yr aelodau ond ychydig iawn o rai cyfoethog, etto cyrhaeddodd eu cyfraniadau y swm anrhydeddus o £167! Ni fu byw ond rhyw fis o amser ar ol derbyn hyn o arwydd o ymlyniad yr eglwysi wrtho.

Yr oedd y pryd hyny yn bur wael, a phrysurwyd ei ddadfeiliad gan gwymp a gawsai oddiar ei geffyl, ychydig wythnosau yn flaenorol,