Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ponies iddo, rhag ofn iddo dòri eu cefnau; ac yr oedd ei deiliwr yn arfer siarad am dano ar ol ei farwolaeth gyda math o barch ofnadwy." Ni bu erioed ddyn mwy cymwynasgar, caredig, a didramgwydd, na Mr. Davies, Castell-hywel, byw ar y ddaear. Mewn cymdeithas nid oedd neb yn fwy llawen a difyrus nag ef, ac adroddir llawer chwedl ar lafar gwlad, fel enghreifftiau o'i ffraethineb, ond ni chaniatâ ein gofod i ni gofnodi dim yn bresenol. Fel bardd coeth a naturiol, ychydig fu yn fwy enwog na bardd Castell-hywel. Mae y llithrigrwydd a'r ystwythder sydd yn nodweddu holl gynnyrchion ei awen, yn eu gwneud yn hynod ddarllenadwy a phoblogaidd. Cyhoeddwyd ei gyfansoddiadau yn llyfryn, yn y flwyddyn 1822, dan yr enw Telyn Dewi, ac mae y gwaith erbyn hyn wedi myned trwy amryw argraffiadau. Gwneir ef i fyny gan mwyaf o gyfieithiadau o waith y prif-feirdd Seisnig, megys Young, Gray, Mrs. Barbauld, &c. Ac fel cyfieithydd barddoniaeth, nid oes neb etto wedi dyfod yn agos ato, ac ystyrir ei gyfieithiad o Alargan Gray yn mawr ragori ar y gwreiddiol, er cystal yw hòno. Yr oedd yn alluog i gyfansoddi englyñion Seisnig a Lladin gyda rhwyddineb mawr, fel y gwelir oddiwrth yr enghreifftiau sydd yn ei lyfr. Y mae ei linellau sydd yn cyfeirio at Dr. Priestley, yr hwn a ddaliai allan yr athrawiaeth o fateroldeb yr enaid, yn dra adnabyddus :

"Yma gorwedd wedi marw, yn dra detheu mewn arch dderw,
Esgyrn, 'menydd, gwaed, gwythienau, corff ac ENAID Doctor Priestley."

Yr oll a wyddis iddo ysgrifenu mewn rhyddiaith ydoedd, cyfieithu Scougal's Life of God in the Soul of Man. Gadawodd Mr. Davies ar ei ol ddau fab yn y weinidogaeth gyda'r Undodiaid.

DAVIES, DAVID, a anwyd yn Cilfforch, Henfynyw, tua milldir o dref Aberaeron, ar y ffordd tuag Aberteifi, yn y flwyddyn 1791. Ymunodd â'r Annibynwyr yn Neuaddlwyd pan yn dra ieuanc, a chymeradwywyd ef gan yr hyglod weinidog, y Dr. Phillips, i fyned i Athrofa Caerfyrddin, er parotoi ei hunan at waith y weinidogaeth; buasai am dymmor cyn hyny dan addysg y Parch. D. Davies, Castell-hy wel. Ar ei ymadawiad â'r Coleg, yn y flwyddyn 1813, derbyniodd alwad i fyned i gydweinidogaethu â'r Parch. John Griffiths, i Gaernarfon, ac mewn canlyniad urddwyd ef yno. Ni fu ei arosiad yno, modd bynag, ond byr, gan iddo dderbyn gwahoddiad oddiwrth eglwysi undebol Pantteg a Pheniel, ger Caerfyrddin, i ddyfod i'w bugeilio, â'r hyn y cydsyniodd. Wedi i'r Parch. D. Peter ymryddhau oddiwrth lywyddiaeth y Coleg yn Nghaerfyrddin, penodwyd Mr. Davies yn olynydd iddo, a gwasanaethodd yntau y swydd gyda ffyddlondeb a llwyddiant mawr am 21 o flynyddoedd. Yr oedd Mr. Davies yn Drindodwr o'r galon, ac er fod ei ddyledswyddau fel athraw yn ei ddwyn i wrthdarawiad beunyddiol â rhai yn coleddu