Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth y Dr. Jenkins. Yn ystod ei arosiad yno, cafwyd digon o brawf o'i alluoedd fel ysgolhaig, yn gystal ag o'i dduwioldeb. Y pryd hyny y dechreuodd bregethu. Wedi gorphen ei efrydiaeth yno, ymsefydlodd yn Ciliau Aeron, lle y llafuriai fel pregethwr yn mysg yr Arminiaid. Tra yma, unwyd ef mewn "glan briodas" â Miss Ann Evans, Foelallt, Ciliau. Ar ol ei urddo yn gydweinidog â'r Parch David Lloyd, yn Llwyn-rhyd-owen, &c., efe a symudodd oddiyno i Gastell-hywel, yn mhlwyf Llandyssul; ac wrth y lle yma yr adnabyddid ef byth wedi hyny. Ar ol ymsefydlu yno, agorodd ysgol glasurol, yr hon a ddaeth o'r diwedd i gael ei hystyried yn un o'r sefydliadau addysgawl enwocaf yn y Dywysogaeth. Yr oedd gan Mr. Davies dalent neillduol at gyfranu addysg: yr oedd fel wedi ei ddonio â chymhwysderau arbenig at y gwaith o gario ysgol yn mlaen. Deallai y natur ddynol yn rhagorol; astudiai gymeriad y dysgybl yn fanwl, ac nid hir y byddai cyn dyfod o hyd i'r fynedfa i gelloedd dirgel ei feddwl. Fel y gellid dysgwyl, daeth yn anarferol boblogaidd fel ysgolfeistr; a chyrchai plant a dynion ieuainc, tlawd a chyfoethog, o bob cŵr o'r Dywysogaeth ato am eu haddysgiaeth. Ac yr oedd llawer o wŷr enwocaf y wlad yn ddyledus iddo am osod i lawr sylfaen eu mawredd. Yn yr ysgol hon, cydgymysgai plant Ymneillduwyr ac Eglwyswyr yn ddiwahaniaeth; a dygwyd i fyny ynddi lawer a fuont yn addurn i'r weinidogaeth yn mysg y naill a'r llall. Ond pan ddaeth Dr. Horsley. yn esgob Ty Ddewi, ni fynai urddo neb o'r ysgolheigion i'r weinidogaeth heb fyned i ryw sefydliad addysgawl arall. Darfu i hyn, mae'n debyg, effeithio i ryw raddau ar yr ysgol; ond yr oedd enw Mr. Davies bellach wedi ei sefydlu fel un o'r athrawon mwyaf llwyddiannus yn y wlad. Parhaodd yn y swydd yma, yn nghyda'r pregethu, hyd ddiwedd ei oes, yr hyn a ddygwyddodd Gorphenaf 3, 1827, pan oedd yn 83 oed. Fel duwinydd, mae yn anhawdd dweyd dim gyda pherffaith sicrwydd am Mr. Davies, a hyny am y rheswm na chyffyrddai byth yn ei bregethau â phynciau dadleuol; ac felly, nis gellir dweyd beth oedd ei farn, mewn gwirionedd, ar lawer o athrawiaethau Cristionogaeth. Ymddengys mai lled anmhenodol oedd ef ei hunan ar y pynciau sydd yn gwahanu yr Arminiaid a'r Sociniaid oddiwrth eu gilydd; ac felly hawliai y naill blaid a'r llall ef fel eu heiddo hwy. Yr oedd yn hollol ddiragfarn, modd bynag; ac mewn llythyr at gyfaill dywed, "Yr wyf yn berffaith foddhaol yn fy meddwl fy hun fod y Dr. Priestley, ac eraill o'i blaid, yn ddynion da a Christionogion gwirioneddol; meddaf hefyd yr un farn am John Calfin, Dr. Crisp, a dysgyblion eraill. Eisteddwn yn ddedwydd mewn cymundeb gyda hwynt, gyda gobaith gwynfydedig o fod yn eu cymdeithas am byth yn y nefoedd." "Ymddengys," ebai y Parchedig Arthur Mursell, yn Good Words, "fod Mr. Davies yn rhyw ryfeddod o ddyn. Yr oedd yn ddyn o faintioli cawraidd. Yr oedd y cymydogion yn ofni rhoddi benthyg eu