ddiorphwys, a bendithiwyd ei ymdrechiadau â graddau anghyffredin o lwyddiant, fel y gellir barnu oddiwrth y ffaith ganlynol, yn mysg eraill, sef, nad oedd yn y lle hwnw pan aeth efe yno gyntaf ond tri chymunwr yn yr Eglwys; ond yn fuan iawn cynnyddasant i tua 400. Yr oedd yn anarferol boblogaidd fel pregethwr, a cherid ef yn fawr gan bob dosbarth o'i blwyfolion. Nid oes dadl na fu ei ymroddiad i'w swydd weinidogaethol, a'r llafur gorfawr yr aeth trwyddo yn achos o fyrhau ei ddyddiau ar y ddaear. Diau mai "yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth." Mab iddo ef ydyw y Parch. C. S. Edwards, Cwmbrân.
EINION AB DAFYDD LLWYD o'r Wern Newydd, yn mhlwyf Llanarth, oedd yr un a groesawodd Iarll Rismwnt, pan ar ei daith o Aberdaugleddyf tua maes Bosworth. Derbyniodd yr Iarll yr un arddangosiad o serchogrwydd a charedigrwydd yma ag a dderbyniasai y noson flaenorol yn nhŷ Dafydd ab Ieuan, yn Llwyndafydd.
ELERI, oedd ferch Brychan Brycheiniog, a gwraig Ceredig ab Cunedda. Hi oedd mam Sandde, tad Dewi Sant.
ELFFIN, fab Gwyddno, oedd sant o goleg Illtyd, ac yn blodeuo yn y chweched ganrif. Yr oedd gan ei dad, Gwyddno, ored bysgota ar y traeth rhwng Aberdyfi ac Aberystwyth, yr hon oedd yn dwyn mawr elw iddo. Ond ymddengys mai hynod anffodus oedd Elffin—ni lwyddai dim yn ei law, er mawr ofid i'w dad, yr hwn a gredai ei eni ar awr anffodus. Yn awyddus, modd bynag, i roddi un prawf teg i dynged ei fab, cytunodd roddi iddo holl ennillion y gored am un flwyddyn gyfan. Tranoeth, ymwelodd Elffin â'r gored; ond nid oedd yno ddim i'w weled ond hen gwd lledr wedi ymgylymu am un o'r polion. Ar hyn, dechreuodd ei gymdeithion ddannod iddo ei anffawd; oblegid yr oedd wedi dinystrio ffawd y gored, yr hon fyddai arferol o gynnyrchu elw o gan' punt cyn y cyntaf o Fai. "Na," ebe Elffin, "gall fod rhywbeth cyfwerth â chan' punt yn y cwd, er hyny." Dattodwyd y cwd, a daeth talcen hardd plentyn i'r golwg, yr hyn a barodd i un o'r dynion waeddi allan, "Llyma Dal Iesin." "Taliesin, ynte, boed ei enw," ebe Elffin, a chan gymeryd tosturi arno, efe a'i cludodd yn ofalus i'w wraig, yr hon a'i magodd yn dyner; ac o'r dydd hwnw allan, cynnyddodd Elffin mewn cyfoeth yn barhaus. Y cyfryw ydyw y chwedl am blentyndod Penbeirdd Cymru. Fel ad-daliad am hyny, cyfansoddodd Taliesin awdl pan yn blentyn i'w noddwr, sef Dyhuddiant Elffin, yn yr hon y ceisiai gysuro Elffin, a throi ei feddwl oddiwrth ei anffodion blaenorol. Wedi hyny, pan oedd Elffin yn garcharor yn Nghastell Dyganwy, gan Maelgwyn Gwynedd, llwyddodd Taliesin, trwy ddylanwad ei awen, i gael rhyddhad i'w hen ymgelRhymni, llafuriodd yn