Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eddwr.-Gwel Mabinogi Taliesin yn y Cambrian Quarterly Magazine, v. 200; a'r Myf. Arch., i. 17.

ENOC, JOHN, ydoedd fab i John Enoc o Aberarth-fechan, a gorŵyr i Dafydd Hywel o Droed yr Aur. Ymunodd â'r fyddin, a daeth mewn amser yn Filwriad y Royal Welsh Fusileers. Cymerodd ran yn mhrif frwydrau yr Orynys, o dan Wellington; ac wedi hyny yn Waterloo, ac enwogodd ei hunan yn fawr ynddynt. Yn mrwydr Salamanca, Gorph., 1812, saethwyd ei geffyl dano, a chlwyfwyd yntau yn drwm. Ei ddyrchafiadau oeddynt, Is-raglaw, Mawrth 9, 1809; Rhaglaw, Awst 15, 1811; Cadben, Gorphenaf 22, 1830; Uwch-gadben, Ebrill 14, 1846; Is-filwriad, Chwefror 1, 1851; Milwriad, Tachwedd 28, 1854. Bu farw yn Llundain, tua'r flwyddyn 1855, gan adael un ferch yn briod â Dr. Lewis, Piccadilly, Llundain.


EVANS, CHRISTMAS. Ganwyd y gwr enwog hwn ar ddydd Nadolig, yr hyn fu'n achos iddo gael ei alw felly, yn y flwyddyn 1766, mewn lle o'r enw Ysgarwen, yn mhlwyf Llandyssul, sir Aberteifi. Enw ei dad oedd Samuel-crydd wrth ei alwedigaeth; ac yr oedd ei amgylchiadau y cyfryw fel na chafodd ei blant ond ychydig neu ddim dysg. Collodd Christmas ei dad pan yn naw oed, ac felly gorfodwyd ef i droi allan i wasanaethu ar hyd y gwahanol ffermydd yn y gymydogaeth. Pan yn ddwyarbymtheg oed, cawn ef yn gweini yn Nghastell-hywel, gyda'r enwog Barch. D. Davies; a chydag ef y cafodd y cyfleusdra cyntaf i ddysgu darllen, oblegid yn flaenorol i hyny nid oedd yn medru gair ar lyfr. Ymunodd âg Eglwys Llwyn-rhyd-owen, pan oedd tua deunaw oed; ond yr oedd wedi teimlo argraffiadau crefyddol dwfn pan yn dra ieuanc. Ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Mae hyn yn dangos pa mor ddiwyd y rhaid ei fod wedi llafurio i gyrhaedd gwybodaeth yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan na wyddai "air ar lyfr" yn ei dechreu. Gwahoddid ef i bregethu gan y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Trefnyddion Calfinaidd, yn y gymydogaeth, yn gystal ag yn mysg yr Arminiaid Presbyteraidd yn ei eglwys ei hun-Llwyn-rhyd-owen-yr hyn sydd yn profi ei fod yn gymeradwy o ran ei fuchedd yn gystal ag o ran ei ddawn pregethwrol. Ychydig cyn hyn, pan ar ymweliad â sir Henffordd, i weithio'r cynhauaf, (fel mae yn arferiad etto yn y Deheudir), cyfarfyddodd âg anffawd lled drom, sef colli ei lygad, yr hyn a ddygwyddodd trwy i bump neu chwech ddynion ymosod arno yn llechwraidd, a'i daro ar ei lygad, fel y collodd ef yn y fan. Yn y flwyddyn 1788, ymunodd âg Eglwys y Bedyddwyr yn Aberduar, gan adael Eglwys Llwyn-rhyd-owen; er hyny, gydag ewyllys da a pharch pawb o'r aelodau. Y flwyddyn ganlynol, ar gais yr enwog John Jones o Ramoth, cymerodd daith trwy y Gogledd, ac urdd