Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd ef tra yno yn fath o genadwr, i ofalu am yr eglwysi yn Lleyn, sir Gaernarfon. Yn Lleyn y cafodd hyd i gydmares ei fywyd, sef un Catherine Jones, yr hon a fu yn gysur mawr iddo yn ystod ei fywyd gweinidogaethol llafurus. Bu ei lafur yno mor fawr nes y bu agos iddo a cholli ei iechyd; pregethai yn fynych bum' waith ar y Sabbath, heblaw cerdded ugain milldir. Dilynodd llwyddiant mawr ei ymdrechion yn Lleyn, am yr yspaid o ddwy flynedd y bu yn aros yno; a bedyddiodd o “gylch hanner cant yn y flwyddyn gyntaf yn Ty'nydomen yn unig." Cymerodd daith unwaith oddiyno i'r Deheudir, a'r pryd hyny y daeth ei ddawn anarferol fel pregethwr i'r golwg; oblegid yr oedd rhyw effeithiau anghyffredin yn dilyn ei weinidogaeth i ba le bynag yr elai. Yn y flwyddyn 1791, derbyniodd wahoddiad taer i fyned i ymsefydlu i sir Fon, â'r hyn, wedi cryn betrusder, y cydsyniodd; ac yno, yn Llangefni, y treuliodd bymtheng mlynedd ar hugain, gan lafurio yn ffyddlawn. Ei gyflog am tuag ugain mlynedd o'r amser y bu yn Llangefni, ydoedd £17 y flwyddyn; ac mae hyn yn rhyfeddach fyth pan y cofiom fod y swm yma yn cael ei wneud i fyny gan ddeg o leoedd pregethu yn yr ynys! Teg, modd bynag, yw hysbysu fod yr amaethwyr yn rhoddi rhoddion gyda hyny o wahanol fathau o ymborth, &c. O herwydd yr amgylchiadau anghysurus a ddygwyddasant yn Mon mewn cysylltiad â'r corff o Fedyddwyr, megys dyfodiad Sandemaniaeth i mewn i'r eglwysi, a'r dadleuon a'r ymraniadau a achoswyd trwy hyny, penderfynodd Mr. Evans ymadael â'r ynys, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1826. Yr ydym yn ei gael, yn ol ei eiriau ei hun, "yn awr yn ymadael heb feddu dim o'r byd hwn, ond y ceffyl oedd o danaf, ac ychydig arian oedd yn fy llogell; a phrin y gallaswn ddywedyd fod y rhai hyny yn rhydd genyf." Dealler, ei fod wedi claddu ei hoff briod yn flaenorol i hyn. Sefydlodd wedi hyny yn Nghaerffili, ac yno y priododd ei ail wraig, sef Mary Evans o sir Fon, yr hon a fu yn wraig ffyddlon a gofalus iddo am y gweddill o'i oes. Symudodd oddiyma drachefn yn Hydref, 1828, i Gaerdydd, oblegid i ryw anghydfod dòri allan yn yr eglwys. Bu yn hynod lwyddiannus yno er hyny, oblegid derbyniodd tua saith ugain o aelodau yn ystod ei arosiad o ddwy flynedd yn y lle. Maes nesaf ei weinidogaeth oedd Caerdydd; ond ymadawodd oddiyno drachefn yn 1832. Yn y flwyddyn hòno, aeth i Gymanfa Le'rpwl; a chan ei fod wedi rhoddi Eglwys Caerdydd i fyny, derbyniodd annogaeth wresog yno i ddyfod i fugeilio yr Eglwys yn Nghaernarfon. Felly, ymsefydlodd yn y lle hwnw hyd ddiwedd ei oes. Pan ar ymweliad â'r Deheudir, yn 1838, lle y daethai i gasglu at dynu dyled ei gapel yn Nghaernarfon, cymerwyd ef yn glaf yn Abertawe, ac yno y bu farw, Gorphenaf 19. Sabbath olaf ei fywyd, pregethodd yn nghapel y Parch. D. Davies; a nos Lun eilwaith yn nghapel Seisnig y Parch. D. R. Stephen, gan deimlo mor iach a hwylus ag arferol. Ond wrth ddyfod i lawr o'r pulpud,