Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedodd, "Dyma y bregeth olaf i mi." Cymerwyd ef yn glaf y noson hòno, gwaethygodd yn raddol hyd nos Iau; a tua dau o'r gloch boreu Gwener, gorphenodd y gwr hynod hwn ei yrfa ddaearol, yn 72 mlwydd oed, wedi treulio 53 mlynedd yn y weinidogaeth. Bellach, ni gawn sylwi ychydig iawn yn fyr arno fel dyn a phregethwr. Yr oedd Mr. Evans o dymherau cyffrous a bywiog dros ben; ac er i hyn, efallai, fod o ryw fantais iddo yn yr areithfa, etto, parodd iddo gryn lawer o ofid a helbul fwy nag unwaith; oblegid arweinid ef yn fynych, pan gyffroid ef, i nwydau drwg, ac i golli yr hunanfeddiant hwnw a ddylai pob dyn, ac yn enwedig gweinidog yr efengyl, fod yn wyliadwrus yn ei gylch. Byddai y byrbwylldra oedd yn nodwedd ynddo, yn achos o ofid mawr iddo ef ei hun, fel pan y deuai i'w le, byddai yn edifeiriol i'r eithaf. Yn mysg ffaeleddau eraill y gwr mawr yma, gellid nodi ei anwadalwch, ei ddiffyg gwroldeb, a'i ddiffyg barn. Yr oedd y pethau hyn, o ganlyniad, yn milwrio yn bur gryf yn erbyn ei gymeriad o lywodraethwr yn yr eglwys, gan ei fod yn bur ddiffygiol o'r cymhwysderau hyny sydd yn angenrheidiol i lywodraethu. Mae hyn yn rhoddi goleuni ar ei fynych symudiadau gweinidogaethol. O'r ochr arall, perthynai i Christmas Evans ragoriaethau neillduol. Un nodwedd neillduol ynddo ydoedd gonestrwydd a didwylldra, ac yr oedd yn ddidderbynwyneb hollol-ceryddai fai lle bynag y canfyddai ef. Yr oedd yn dra didwyll-a'i holl enaid yn y gwaith, nid fel "boddlonwyr dynion," ond fel un yn gyfrifol i'w Arglwydd am y cyfan. Haelioni hefyd ydoedd un o'i ragoriaethau. Mae ei holl gofiantwyr yn nodi y gallai unrhyw grwydryn o Wyddel, neu o ryw genedl arall, dynu oddiwrtho y tamaid olaf o fara yn y tŷ, a mynych y gorfodid ei wraig i guddio peth o'r bara, rhag mai ei ranu a gawsai yn llwyr. Yr oedd yn cyfranu yn gyson at y Feibl Gymdeithas, Athrofa y Fenni, &c.; a hyny pan nad oedd ei gyflog ond tua £17 yn y flwyddyn. Duwioldeb hefyd oedd yn nodwedd o'r fath gryfaf ynddo. Yn ystod ei fywyd gweinidogaethol maith, ni chynnygiwyd dwyn un math o gyhuddiad yn erbyn ei gymeriad moesol, hyd yn nod gan ei elynion. Yr oedd yn weddïwr mawr, a mynych yr ymneillduai i'w ystafell i weddïo gynnifer a deuddeg gwaith yn y dydd. Yr oedd hefyd yn llafurus nodedig. Nid oedd byth yn segur; ac yr oedd wedi dwyn ei hunan i'r fath arferiad o ddiwydrwydd, fel yr oedd yn ail natur iddo. Gwelir hyn yn amlwg oddiwrth y ffaith iddo gyrhaedd gryn wybodaeth o'r Hebraeg, Groeg, a Lladin, tra na chafodd ond tua hanner blwyddyn o ysgol i gyd, ac na wyddai lythyren ar lyfr cyn bod yn ddwyarbymtheg oed. Yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth hanesyddol, wladol, a chrefyddol, hen a diweddar, pur fanwl a chyffredinol; ond duwinyddiaeth oedd ei hoff bwnc. Cyfansoddodd, digon tebyg, filoedd o bregethau; ac mae rhai cannoedd o honynt, a ysgrifenodd yn Nghaerffili, ar gael yn awr mewn ysgrif-lyfr, a'r rhai hyny wedi eu hysgrifenu