Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bron yn llawn. Yr oedd tua 70 mlwydd oed pan yn parotoi ei Ddarlithiau ar y Datguddiad, yn Nghaernarfon. Efe oedd un o gyfieithwyr Esboniad Dr. Gill ar y Testament Newydd. Cyfansoddodd amryw o emynau rhagorol, a chyhoeddodd lawer o draethodau ar bynciau dadleuol a buddiol, heblaw y lluaws ysgrifau o'i eiddo yn y gwahanol gyfnodolion. Cyhoeddodd lyfryn ar Ddirwest, pan yn Nghaernarfon; a dadleuodd ac areithiodd lawer iawn yn ei flynyddau olaf o blaid y Gymdeithas Ddirwestol. Ei brif ragoriaeth fel pregethwr oedd yn gynnwysedig yn ngrym a bywiogrwydd anghyffredin ei ddychymyg, ac yn ei allu i bortreadu a dysgrifio gwrthddrychau. Enghreifftiau nodedig o'i allu yn y ffordd yma ydyw ei bregeth ar y "Mab Afradlon" a "Chyfodiad Lazarus." "Ni buasai Christmas Evans," ebe un, "yn fwy poblogaidd na llawer eraill o'r Bedyddwyr, na chymaint a rhai oedd yn fyw yn ei oes ef, oni b'ai nerthoedd a chyflymdra ei ddychymyg, ei ymroad, a galluoedd creadigol ei feddwl. Yr oedd ei feddwl yn gallu esgor mewn ychydig fynydau ar yr hyn a fuasai yn ddigon o fortune i lawer un am ei oes."

EVANS, DANIEL, B.D., (Daniel Ddu), un o brif awenyddion Cymru, a anwyd yn Maes Mynach, plwyf Llanfihangel Ystrad, Ceredigion, yn y flwyddyn 1792. Amaethwr cyfrifol ydoedd ei dad, ac yntau oedd yr ail o dri mab. Gan iddo gael ei fwriadu i fod yn weinidog yn yr Eglwys Sefydledig, anfonwyd ef i ysgol Ramadegol Llanbedr, yr hon a gedwid y pryd hyny gan y Parch. Eliezer Williams, mab yr hybarch Peter Williams. Mewn amser, danfonwyd ef i Rydychain, lle y dewiswyd ef yn Gymrawd, ac ei graddiwyd yn B.D. Urddwyd ef, a pharhaodd i fwynhau ei Gymrodoriaeth am flynyddau lawer. Enwogodd Daniel Ddu ei hun fel llenor Cymreig, ac fel un o'r beirdd mwyaf coeth a chlasurol; ac ychydig o feirdd sydd yn Nghymru wedi ennill y fath boblogrwydd ag ef. Anfarwolodd ei hunan mewn cysylltiad âg Eisteddfod fawr Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1823. Efe ydoedd arwr yr Eisteddfod hòno, ac yr oedd ei ymddangosiad disymwth ac annysgwyliadwy fel bardd a llenor o'r dosbarth cyntaf, yn destun syndod ac edmygedd i holl bleidwyr llenyddiaeth eu gwlad. Yn ychwanegol at yr anrhydedd o ennill ar y prif destun, sef Awdl ar Goleg Dewi Sant, trwy yr hwn yr aeth a'r Gadair, bu hefyd yn llwyddiannus ar y testun, "Buddugoliaeth y Groegiaid ar y Tyrciaid;" ac hefyd ar y testun, "Ifor Hael." Yn ystod yr Eisteddfod, traddododd anerchiad yn llawn o goethder a dichlyndra ieithyddol, ac yn llawn o deimlad gwir wladgarol. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol, neu yn hytrach gyfran o honynt (oblegid gwelsom rai cannoedd o linellau o'i eiddo na wnaethant erioed eu hymddangosiad mewn argraff) dan y teitl o Winllan y Bardd, yn gyfrol drwchus o 410 o dudalenau, yn y flwyddyn 1831. Ac yn wir, Gwinllan mewn gwirionedd ydyw, oblegid mae yn llawn o rawnsypiau