Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf dewisol a phereidd-flas. "Ystyrir nodweddau ei awen yn dlws, a phrydferth, a choeth-afon yn ysgogi ac yn ymddolenu hyd y ceulanau, trwy ddyffryn llydan, gwastadlyfn, meillionog—yn ysgogi bob amser yn nerthol, ac weithiau yn chwim drochionog, ond nid yn rhaiadrog. Mae yr aw ufelaidd yn rhoddi bywyd i bob brawddeg o'i eiddo; ac ymdoddai y meddylrithiau yn ddidwthian a hollol naturiol i'r cynghaneddau. Ac nid ymddengys fod yr odl gaeth yn un hual i'w awen ef." Heblaw y lluaws o awdlau a chywyddau, a llawer o honynt yn gyfansoddiadau gwobrwyedig yn y gwahanol Eisteddfodau, cynnwysa y Winllan lawer o emynau a phennillion yn mysg y rhai mwyaf coeth a phrydferth yn yr iaith. Dyfynwn y ddau bennill canlynol, ar " Ddychweliad y Mab Afradlon," fel enghraifft:

"Dos yn mlaen, bererin egwan,
Trwy'r diffaethwch, dos yn mla'n;
Er mor athrist yw dy olwg,
Try dy alar etto'n gân:
Llygaid nef sydd ar dy gamrau,
Teithia 'mlaen, bererin gwan;
Ronyn etto, ffrydiwch ddagrau,
Chwi a sychir yn y man.

Pwy a wela'i'n d'od a gwisgoedd
Hardded a goleuni'r wawr-
Yn cusanu'r crwydryn eiddil-
Ar ei wddf yn syrthio i lawr?
Uwch ac uwch yn awr dyrchafa
Tannau'r nef eu sain yn nghyd;
O! a ydyw'th werth di gymaint,
F'enaid bach, a wyt mor ddrud?"


Bu farw Mawrth 28, 1846, yn 54 mlwydd oed; a chladdwyd ef yn mynwent Pencareg, sir Gaerfyrddin.

EVANS, DANIEL, Capel Drindod, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a anwyd yn y flwyddyn 1744. Dechreuodd bregethu yn 1777, a pharhaodd wrth y gwaith hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 17, 1845, pan yn 71 mlwydd oed. Teithiodd fwy na'r rhan amlaf o'i frodyr yn y weinidogaeth, a bu yn dra llafurus yn y winllan tra parhaodd ei ddydd. Yr oedd yn un a fawr garai dangnefedd yn ei fywyd, ac felly bu ei ddiwedd; canys "efe a aeth i dangnefedd." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llangynllo.


EVANS, THOMAS, oedd fab David Evans, Ysw., Llechwedd Deri, yn mhlwyf Llanwnen. Yr oedd ei dad yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1641, ac efe a brynodd ystad Ffynnon Bedr, ac a adeiladodd y palasdy a ddaeth wedi hyny mor enwog mewn cysylltiad â hanes y Llwydiaid. Yr