Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd teulu Ffynnon Bedr yn bleidiol i achos y Senedd yn amser y Rhyfel Cartrefol; a dywedir fod Thomas Evans a'i fab yn ngwasanaeth Cromwell fel math o ddirprwywyr yn y rhan hòno o'r wlad; a'u bod, yn rhinwedd y swydd hono, wedi casglu yn nghyd gyfoeth mawr. Nid ᎩᎳ ei enw, modd bynag, yn mysg y Dirprwywyr er Lledaenu yr Efengyl, (gwel Scobell's Arts and Ordinances); ond crybwylla Walker (Sufferings of the Clergy) am un Thomas Evans fel yn meddu rhyw awdurdod mewn materion eglwysig yn siroedd Aberteifi a Maesyfed; ac mae lle i gasglu mai gwrthddrych y cofiant hwn ydoedd ef. Hysbysir ni, ar awdurdod dda, ei fod yn gadben ar gorff o wŷr meirch, o dan y Pwyllgor Diogelwch. Mewn ysgrif a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1661,[1] rhoddir y cymeriad canlynol iddo, yr hwn nid yw mewn un modd yn siarad yn ffafriol am ei egwyddorion moesol:-"Thomas Evans, passionately violent in anything —first a covenanter, then an eager advocate for the negative oath; afterwards most impetuous against a single person, especially the Family of his now Majestie; an active captain of horse, and his son David of foote, under the late Committee of Safety; passing an oath upon others for their fidelity to the said Committee; endeavouring to incite men, about the beginning of April last, to take arms against General Monke; impatient without an office, and tyrannical in it." Bu Thomas Evans yn dal y swydd o sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1653. Yr oedd yn briod âg Elizabeth, merch Ieuan Gwyn Fychan, Moelifor, o ba un y bu iddo blant, un o ba rai ydoedd―

EVANS, DAVID, at yr hwn y gwneir cyfeiriad yn y dyfyniad uchod, oddiwrth yr hyn y gwelir ei fod yntau, fel ei dad, yn cymeryd rhan neillduol a chyhoeddus yn helyntion gwladol ei oes; ac yn gadben ar gorff o wŷr traed, o dan y Pwyllgor Diogelwch. Priododd Jane, merch William Herbert, Ysw., Hafod Ychdryd. Yr oedd mam y foneddiges hon yn chwaer i wraig Jonathan Lloyd, Ysw., Llanfair Clydoge; ac i Syr John Vaughan, Trawsgoed, Prif Farnwr Llys y Common Pleas.

EVANS, DAVID, a anwyd yn agos i Aberporth, sir Aberteifi, yn y -flwyddyn 1744. Pysgotwr wrth ei alwedigaeth oedd ei dad, a chan fod ganddo deulu lluosog yn ymddibynu arno am foddion eu cynnaliaeth, gorfu i wrthddrych ein cofiant droi allan i "wasanaethu" pan yn ddeg oed, a dilynodd y gwaith hwn mewn gwahanol fanau am tuag ugain mlynedd. Pan o gylch saith ar hugain oed, unodd â'r Bedyddwyr yn Nghilfowyr, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu yn y gwahanol

  1. "A true character of the Deportment for these eighteen years last past, of the principal Gentry within the counties of Carmarthen, Cardigan, and Pembroke, in South Wales." (See Cambrian Register, vol. i., p. 166).