Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fanau y gelwid am ei wasanaeth. Yn y flwyddyn 1774, priododd a chymerodd dyddyn bychan o'r enw Newgate, gerllaw Eglwys Troed yr Aur. Yn 1778, neillduwyd ef i'r swydd weinidogaethol yn addoldy y Graig, gerllaw Castellnewydd Emlyn. O herwydd ei fod yn hynod boblogaidd fel pregethwr, ac yn meddu cymhwysderau neillduol eraill, penodid ef yn flynyddol i fyned ar daith drwy y Gogledd. Yn ystod y teithiau hyn, cyfarfyddodd âg erledigaethau chwerwon, a bu ei fywyd amryw weithiau mewn perygl. Yn 1787, dewiswyd ef yn weinidog ar Eglwys Maesyberllan, Brycheiniog, lle y bu yn llafurio yn ddiflino am ddeg ar hugain o flynyddoedd. Bu yn foddion i sefydlu achos yn Aberhonddu a Cherygcadarn, a chwanegwyd llawer at yr eglwysi o dan ei weinidogaeth. Er nad oedd wedi mwynhau nemawr o fanteision dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd, ni allasai fod ei wybodaeth feirniadol a chyffredinol mor helaeth a'r eiddo llawer; ond gwneid y diffyg hwn i fyny i raddau mawr gan ei ddeall goleuedig, ei gof gafaelgar, a'i synwyr cryf a threiddiol. Parhaodd yn ei iechyd a'i fywiogrwydd i bregethu yn ddidor hyd oni tharawyd ef gan y clefyd a derfynodd yn ei farwolaeth, Hydref 24, 1821, pan yn 77 mlwydd oed, ar ol bod yn llafurio yn ffyddlon yn ngwinllan ei Arglwydd am yn agos i ddeng mlynedd a deugain.

EVANS, DAVID, oedd enedigol o Lwyncelyn, plwyf Llanddewi Brefi, a ganwyd ef ar yr 16eg o Ragfyr, 1811. Efe oedd yr ieuangaf o naw o blant. Anfonwyd ef yn ieuanc i'r ysgol, a gallai ddarllen pan yn bump oed. Yn y flwyddyn 1824, tòrodd diwygiad grymus allan yn Llangeitho a'r ardaloedd, yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd, ac unodd yntau â hwy. Pan tua unarbymtheg oed, anfonwyd ef i'r ysgol Ramadegol i Neuaddlwyd, ac yn fuan ymunodd yno â'r Annibynwyr. Tua blwyddyn ar ol hyny dechreuodd bregethu. Bu dan ofal yr hybarch Dr. Phillips am bedair blynedd, a gwnaeth gynnydd mawr mewn gwybodaeth o Saesonaeg, Lladin, a Groeg, fel ag y dywedai ei athraw am dano, na bu neb yn fwy diwyd a llafurus nag ef erioed o dan ei ofal; ac na chafodil un gofid oddiwrtho dros yr holl amser y bu gydag ef. Yn 1831, symudodd i Athrofa Caerfyrddin, lle y bu eilwaith bedair blynedd. Ar derfyn yr amser hwnw, cafodd alwad gan yr Eglwys Annibynol yn Mhenygraig, ger Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn weinidog yno, Ionawr 15, 1835; a Gorphenaf 16, 1837, cymerodd ofal Eglwys Philadelphia. Medi 28, 1838, ymunodd mewn priodas â Miss Eleanor Thomas, unig ferch Mr. William Thomas, Wernwen. Yn ystod yr amser y bu yn gofalu am yr eglwysi hyn, gwnaeth Mr. Evans lawer o ddaioni i'r gymydogaeth yn gyffredinol; a bu yn offerynol i roi terfyn ar lawer o arferion ffol ac annuwiol, megys y cwrwau bach, dulliau anweddaidd yr angladdau, halogi y Sabbath, &c. Llafuriai yn ddiwyd iawn gyda'r Ysgol Sabbathol, ac yr