Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn un o'r holwyr goreu ar bwnc ysgol yn Neheudir Cymru. Pregethai yn fywiog ac argyhoeddiadol iawn. Yr oedd yn hollol gydwybodol -traethai "holl gynghor Duw" yn ddidderbynwyneb. Meddai ar lawer o dân ac ysbryd yr hen bregethwyr, yn nghyda dysg a choethder ei gydlefarwyr ieuainc yn y weinidogaeth.

EVANS, DAVID, Aberaeron, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Mab oedd i Benjamin a Catherine Evans, Penygareg Isaf, ger y dref hon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, ac efe ydoedd yr ieuangaf o bump o blant. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn Ffosyffin, gyda'r Parch. Thomas Gray. Cafodd David Evans ysgol dda pan yn ieuanc, ac wedi hyny cafodd ei anfon i ysgol Ystradmeurig, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o'i ddwyn i fyny yn offeiriad. Ond cyn ei fod yn ddeunaw oed, cafodd anaf bychan ar grimog y goes ddeheu, yr hwn a waethygodd i'r fath raddau fel ag i droi yn fanwynau (king's evil), a gwnaed ef yn gloff iawn. Aeth ei fraich chwith hefyd yn hollol anhyblyg (stiff). Gan ei fod yn ysgolhaig gwych, dechreuodd ar y gwaith o gadw ysgol yn ei gartref, a chyrchai lluaws yno ato. Pan yn 30 ml. oed, priododd âg Elizabeth Davies o blwyf Llanina, a bu iddynt unarddeg o blant, tair o ferched ac wyth o feibion. Yn y flwyddyn 1805, bu farw y plentyn ieuangaf trwy ddamwain ddisymwth, a darfu i'r amgylchiad hwn effeithio cymaint ar ei feddwl, nes ei ddwyn i ystyriaeth ddifrifol am ei ddiwedd; ac mewn canlyniad, taflodd ei goelbren i fysg y dysgyblion yn Ffosyffin, gan y rhai y derbyniwyd ef yn llawen. Yr oedd yn flaenorol i hyny yn meddu cymeriad difrycheulyd, ac yn wrandawr cyson o Mr. Gray, dan weinidogaeth yr hwn yr ymddangosai fel yn teimlo yn ddwys yn fynych. Ffaith hynod yn nglŷn â'i yrfa grefyddol ydyw iddo, ar annogaeth Mr. Gray a'r eglwys yn gyffredinol, ddechreu pregethu yn mhen tri mis ar ol dyfod i'r society. Mae hyn ar unwaith yn profi eu bod yn coleddu y meddyliau uwchaf am dano fel dyn ac fel crefyddwr, ac yn wir ni chawsant erioed yr achos lleiaf i feddwl yn wahanol am dano. Pregethodd yn y Cyfarfod Misol cyntaf yr aeth iddo, yr hwn a gynnelid yn Blaenanerch, a hyny gyda medrusrwydd mawr, ac er boddhad cyffredinol. Wedi hyn, yr oedd ei yrfa weinidogaethol yn un o lwyddiant parhaus, fel ag y daeth i gael ei gydnabod yn "dywysog ac yn wr mawr yn Israel." Yr oedd Mr. Gray cyn ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1809, yn awyddus iawn am ei weled yn cael ei ordeinio yn olynydd iddo ef fel bugail ar yr eglwys hòno, yn nghyda Abermeurig a Llwynpiod; ond gan nad oedd y fath beth ag ordeinio yn mhlith y Trefnyddion yr adeg hòno, ni chafodd ei ddymuniad ei sylweddoli. Yn 1815 y cafodd ef ei ordeinio, a hyny yn Llangeitho. Gyda golwg ar ei fywyd cyhoeddus o'r adeg hon yn mlaen, nis gallwn wneud yn well na dyfynu a ganlyn o ysgrif o eiddo ei fab,