Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Benjamin Evans o'r dref hon, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am ddefnyddiau hyn o gofiant:-"Gallesid meddwl cyn hyn fod yn anmhosibl iddo fod yn fwy ffyddlawn a llafurus nag y buasai cyn hyny; ond yn awr cafodd ysbryd arall, fel rhyw ail ras, ac eneiniad oddiwrth y Santaidd. hwnw, nes ydoedd braidd yn angherddol mewn sel, llafur, ac eiddigedd duwiol dros ogoniant Duw, ac achubiaeth eneidiau. Yr ydoedd yn ymboeni ddydd a nos yn y gair a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Ei hoff awduron oeddynt Dr. Owen, Charnock, Henry, Poole, Charles, Gurnal, Bunyan, a Baxter. Er ei fod yn ysgrifenydd buan ac eglur iawn, nid ydym yn meddwl iddo ysgrifenu pregeth erioed yn hanner cyflawn, a hyny, efallai, am fod ei gof mor anarferol o dda." Yr oedd Mr. Evans yn fugail eglwysig yn Lledrod, Llangwyryfon, Rhiwbwys, Llanon, Penant, a Ffosyffin, a chadwai bregeth a society yn fisol yn mhob un o honynt tra fu byw. Byddai yn bresenol hefyd yn mhob Cymanfa Ysgolion Sabbathol bron trwy y sir; ac nid ystyrid un Gymanfa yn gyflawn os na byddai ef yn bresenol, ac anfynych iawn y byddai hyny yn dygwydd. O ran ei berson, meddai gorff cryf, gwrol, a chadarn iawn, a mwynhai iechyd rhagorol. Yr oedd yn hynod ffraeth a chyfeillgar mewn cwmni, ac yn ddyn o ymddiried a pharch cyffredinol yn ei ardal. Mynych iawn y gelwid arno i benderfynu dadleuon rhwng gwahanol bleidiau mewn gwlad ac eglwys; ac nid rhyfedd hyny gan ei fod yn feddiannol ar ddeall cyflym a synwyr cyffredin cryf, ac o duedd heddychol ei hun. Bu farw mewn canlyniad i yfed dwfr oer ar ol chwysu yn drwm wrth bregethu ar brydnawn gwresog yn Llangwyryfon, Awst 14, 1825, a gorphenodd ei yrfa y Sabbath canlynol, sef yr un wythnos a'i gyfaill a'i gydlafurwr, y Parch. Ebenezer Morris.

EVANS, DAVID, oedd weinidog enwog yn mysg y Wesleyaid, ac a anwyd yn y sir hon yn y flwyddyn 1789. Yr oedd yn un o ddychweledigion cyntaf y Wesleyaid yn Nghymru. Wedi ei argyhoeddi, teimlodd yn fuan awydd cryf i ymgyflwyno i waith y weinidogaeth; ac felly wedi gwasanaethu am dymmor fel pregethwr lleol, urddwyd ef yn weinidog rheolaidd yn y flwyddyn 1810. Yr oedd yn ddyn o feddwl cryf, o farn gywir, yn ddarllenwr mawr, ac o gyrhaeddiadau uchel; ac yn ychwanegol at hyn, yr oedd yn hynod ostyngedig a diymffrost. Yr oedd yn uchel iawn ei gymeriad fel gweinidog yn mysg y bobl y llafuriai yn gystal ag yn mysg ei gydweinidogion. Gwirioneddau mawrion yr efengyl fyddai hoff destunau ei bregethau, ac ymgadwai yn ofalus rhag pynciau dyeithr, ammheus, a thywyll. Ystyrid ef yn un o'r pregethwyr mwyaf enwog a berthynai i'r cyfundeb, a bu yn dra llwyddiannus yn ngwaith ei Arglwydd. Yn ystod y tair blynedd olaf o'i fywyd, dyoddefodd gryn lawer oddiwrth wendidau a llesgedd corfforol; ac yn Ionawr, 1854, cafodd ergyd o'r parlys, pryd y