Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynghorwyd ef gan ei feddyg i roi i fyny bregethu. Parhaodd, modd bynag, gan faint ei awydd i wasanaethu ei Arglwydd, gyda'r gwaith; ond gorfyddwyd ef i'w roddi heibio yn fuan. Gyda pherffaith ymostyngiad i ewyllys ei Dad nefol, bu farw, Mai 11, 1854, yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn gweinidogaethu am 44 mlynedd. Ei eiriau diweddaf oeddynt, "Mae'r Iesu yn dyfod! Cymer fi Iesu, cymer fi Iesu!"—Min. of Conference, 1854.

EVANS, DAVID, a drowyd allan o Eglwys Llandyfriog, gan y Prwywyr, am anfoesoldeb a Simoniaeth.


EVANS, EVAN GRIFFITH, Pen y Wenallt, oedd yn hanu o Wynfardd Dyfed, yn ol tystiolaeth Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog, yr hwn oedd y pummed âch o Evan Gruffydd Evans. Yr oedd yn byw yn amser Siarl I., ac yn deyrngarwr o'r gwraidd; ac "ymladdodd a gwaedodd" yn ei achos. Ei fab, Samuel Evans, fu athraw teuluaidd y Parch. Mathew Henry, yn y Broad Oak. Mab arall iddo oedd Charles Evans, yr hwn a enwyd ganddo o barch i'w frenin, Siarl 1.; ac efe ydoedd tad yr hyglod Theophilus Evans, awdwr Drych y Prif Oesoedd. Ymfudodd cangen o'r teulu hwn i'r America, lle y dyoddefasant lawer o golledion, o herwydd eu hymlyniad wrth Loegr, yn amser Rhyfel America. (Gwel Jones' History of Brecknockshire; Meyrick's History of Cardiganshire, 130).


EVANS, EVAN, Aberffrwd, oedd weinidog ffyddlawn a llafurus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymunodd â chrefydd pan tua 23ain oed, ac yn mhen tua pum' mlynedd wedi hyny dechreuodd bregethu; ac yn y flwyddyn 1822, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Ystyrid ef yn bregethwr da, a bu yn hynod ffyddlawn gyda'r gwaith, a hyny yn wyneb lluaws o anfanteision ac anhawsderau. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd, a mawr berchid ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth gartref ac oddicartref. Tua diwedd y flwyddyn 1855, goddiweddwyd ef gan lesgedd, a chlywid ef yn amlygu ei ddymuniad yn fynych am gael "myned adref;” ac nid hir y bu cyn cael yr hyn a ewyllysiai, oblegid ar foreu Sadwrn, yr 2il o Chwefror dilynol, aeth i fwynhau yr orphwysfa nefol. Yr oedd wedi cyrhaedd yr oedran teg o 73 mlwydd.


EVANS, EVAN, (Ieuan Brydydd Hir), y bardd a'r hynafiaethydd rhagorol, a anwyd yn Cynhawdref, yn mhlwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1730. Addysgwyd ef yn ysgol Ramadegol enwog Ystradmeurig, yr hon oedd o dan arolygiaeth yr ysgolhaig a'r bardd gwych Edward Richard, yr hwn, mae'n debyg, a fu yn foddion i ddwyn allan gyntaf i weithrediad ei alluoedd awenyddol. Efe fu unig ddysgybl a chydymaith ei athraw yno