Aberteifi, lle y treuliodd yn agos i ddwy flynedd. Oddiyno aeth i Ffrwdyfal, ac oddiyno drachefn i Aberhonddu, lle y derbyniwyd ef, Rhagfyr 1, 1847. Wedi treulio pedair blynedd yno, ymadawodd wedi ennill parch a chymeradwyaeth ei athrawon a'i gydfyfyrwyr. O herwydd gwaeledd ei iechyd, nid ymgymerodd â gofal yr un eglwys yn uniongyrchol, er iddo dderbyn galwad i'r perwyl; ond treuliodd ddeufis yma a thraw, er ceisio cryfhau ei iechyd. Urddwyd ef yn Mhenygraig, ger Caerfyrddin, Medi 24, 1851. Bu yno yn llafurio yn galed am tua phum' mis, pryd y gorfodwyd ef, o herwydd llesgedd a gwendid, i roddi y weinidogaeth i fyny, a dychwelyd i dŷ ei rieni; ac yno y bu yn dihoeni am rai misoedd, sef hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 29ain, 1852, pan yn 29 mlwydd oed. Nid meddwl o radd gyffredin oedd gan Mr. Evans; ac er nad oedd yn ddysgwr cyflym, nac yn meddu ar gof gafaelgar, etto, pobpeth a astudiai, mynai ei ddeall yn drwyadl. Meddai dalent neillduol at rifyddiaeth yn ei gwahanol ganghenau, ond prif ogwyddiad ei feddwl ydoedd at athroniaeth foesol a meddyliol, a duwinyddiaeth. Yr oedd yn dra gochelgar yn ei ddewisiad o gyfeillion; ond wedi unwaith ffurfio cyfeillgarwch, gellid ymddibynu arno. Pwyllai a phetrusai lawer cyn gwneud ei feddwl i fyny ar unrhyw bwnc; ac wedi y gwnelai, nid yn hawdd y gellid ei droi yn ol. "Yr oedd ei bregethau yn llawn sylwedd, y materion wedi eu trefnu yn gelfydd, a thraddodai hwy yn bwysig a difrifol, fel y dywedai rhai o'i wrandawyr yn Mhenygraig, fod yn rhaid iddynt naill ai peidio ei wrando neu newid eu cymeriadau. Canmoliaeth ardderchog! Nid ei amcan oedd difyru ei wrandawyr â phregethau bach, melus, tyner, digyfeiriad, a gwenieithol; ond ymdrechai gynhyrfu y meddwl ac anesmwytho y gydwybod. Ymresymwr ydoedd, ac nid clebryn. Byddai yn fedrus iawn i argyhoeddi ei wrandawyr o wiredd ei osodiadau; ond ni feddai ar ffrwd o hyawdledd, yr hwn sydd bob amser yn fanteisiol i berswadio. Yr oedd ei nerth fel pregethwr yn ardderchogrwydd ei faterion, ac yn nifrifoldeb eu traddodiad. Yn yr ystyr yna, daethai yn bregethwr gwir fawr; ond nid oedd ei ddawn areithyddol ond o radd ganolig. Yr oedd meithder ei bregethau, yn nghyda gwendid ei gorff, yn peri iddo golli ei nerth cyn gorphen; fel cyflegr, gollyngai ei gynnwysiad cyn dyfod yn ddigon agos at y gelyn. Yr oedd duwioldeb Mr. Evans o radd uchel. Yr oedd yn anmhosibl bod yn hir yn ei gyfeillach heb weled ei fod yn ofni Duw ac yn parchu dyn.”
EVANS, GRIFFITH, a drowyd allan o Lanrhystyd, gan y Prwywyr, am feddwdod, anfoesoldeb, Simoniaeth, a chadw tafarndy cyffredin.—Walker's Sufferings of the Clergy.
EVANS, JAMES, neu Iago Glan Ceri, oedd enedigol o Gapel Gwnda, yn