mhlwyf Troed yr Aur. Yr oedd yn hynafiaethydd rhagorol, yn fardd lled dda, ac yn hanesydd campus. Nid oedd nemawr lyfr Cymraeg a'r nad ydoedd yn lled hyddysg yn ei gynnwysiad. Bu farw yn y flwyddyn 1851, yn 38 oed.
EVANS, JOHN, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn y Borth, Amlwch, a anwyd yn agos i Benrhiwgaled, tua'r flwyddyn 1753. Derbyniwyd ef yn aelod yn Penrhiwgaled, a dechreuodd bregethu pan yn ieuanc. Urddwyd ef yn weinidog yn nghapel y Graig, Machynlleth, lle y bu yn llafurio am flynyddau gyda llwyddiant mawr. Yn ei amser ef y sefydlwyd yr Eglwys yn Aberhosan, a Phennal hefyd, mae yn debyg. Symudodd oddiyno i Amlwch, lle y bu am ddwy flynedd ar bymtheg ar hugain yn dra ymdrechgar, a llwyddiannus hefyd. Claddodd yno ei unig fab yn ddeunaw mlwydd oed, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac yn debyg o fod yn seren ddysglaer ar faes y weinidogaeth. Claddodd hefyd ei briod yno; a chan y teimlai ei amddifadrwydd, a gwendid a henaint yn ei orddiwes, rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol yn Amlwch, a symudodd i fyw at ei ferch i Dremadog. Ond parhaodd o hyd i bregethu y Sabbathau lle y gelwid am ei wasanaeth, a hyny hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ar y 7fed o Ragfyr, 1849, pan yn 95 mlwydd oed, wedi bod yn gweinidogaethu am oddeutu triugain a deg o flynyddoedd! Yr oedd yn ddyn lluniaidd iawn ei gorff, ac o faintioli mwy na'r cyffredin, ac yn un o'r dynion hawddgaraf yn ei gyfeillach, yn gwbl ddiddichell, ac yn llawn cymwynasgarwch a charedigrwydd. Fel pregethwr, yr oedd yn dra hyawdl, ac yn meddu llais peraidd a soniarus; ond, fel llawer o'r hen bregethwyr, defnyddiai rai ymadroddion lled drwsgl a dichwaeth, y rhai a swnient yn lled arw ar glustiau y rhan goethedig o'i wrandawyr.
EVANS, JOHN, a anwyd yn Blaenplwyf, yn y flwyddyn 1796. Dangosodd pan yn dra ieuanc duedd neillduol at rifyddiaeth. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn yr ysgol, gosodwyd ef yn egwyddorwas gyda gwehydd yn y gymydogaeth, ond gan nad oedd hyny yn cydfyned â'i archwaeth, rhoddodd y grefft i fyny, ac aeth i Lundain. Bu yn llwyddiannus yno cyn hir i dynu sylw y rhifyddwr enwog Griffith Davies, yr hwn gan weled ynddo y fath dalent ryfeddol at rifyddiaeth, a'i cynnorthwyodd yn haelionus yn ei efrydiaeth. Gwnaeth gynnydd mawr yno yn fuan mewn Mesuregaeth, Alsoddeg, Trionglaeth, &c., ac yna dychwelodd yn ol i wlad ei enedigaeth gan ymsefydlu fel ysgolfeistr yn Aberystwyth, pan tua 25ain oed, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes, gan lafurio gyda llwyddiant mawr. Yn ychwanegol at ei wybodaeth eang o rifyddiaeth yn ei gwahanol ganghenau, yr oedd ganddo chwaeth neillduol at wyddoniaeth, ac at ddyfeisio peiriannau ac offerynau gwyddonol. Ac yn mysg pethau eraill,