dyfeisiodd offeryn er dangos symudiadau y ddaear a'r planedau, &c.; un arall i bwyntio at unrhyw seren ddydd neu nos; ac hefyd haul-ddeial hynod gywrain. Ystyrid ef yn dra hyddysg mewn morwriaeth (navigation), ac ato ef ar un adeg y cyrchai holl forwyr y dref a'r gymydogaeth er derbyn hyfforddiant yn y gangen hòno. Mae lluaws mawr o'i ysgolheigion yn llenwi swyddi o bwysigrwydd ac ymddiried mewn gwahanol fanau. gyfrif ei lafur mawr gydag addysgiad gwŷr ieuainc y dref a'r gymydogaeth, anrhegwyd ef gan drigolion Aberystwyth gyda thysteb hardd. Yr oedd yn ddyn hynod wylaidd a dirodres, ac yn Gristion didwyll. Bu farw Ebrill 2, 1861, yn 67 oed, wedi bod dros 40 mlynedd yn ysgolfeistr.
EVANS, JOHN, oedd brydydd o Lanarth, tua diwedd y ganrif ddiweddaf. Cyhoeddwyd o'i waith, "Y Maen Tramgwydd, neu Ymofyniad mewn perthynas i Faterion dadleugar mewn crefydd," &c. Caerfyrddin, 1799.
EVANS, JOHN, M.A., oedd frodor o gyffiniau Llanarth, lle mae yn debyg y gweinidogaethai fel offeiriad y plwyf. Cyfieithodd Deddfau Cristionogol, gan esgob Gastrel; ac, fel y tybir, Ymarferiadau a Myfyrdodau Sacramentaidd Dr Earle, 1735. Cyhoeddodd hefyd, "Cysondeb y Pedair Efengyl, gydag agoriad byr, a nodau athrawus, ar yr hyn a dybir dywyllaf ac anhawsaf ynddynt, &c. Argraffwyd yn Bryste, gan E. Earley, 1765." Hwn oedd yr Esboniad rheolaidd cyntaf yn y Gymraeg, ac ymddangosodd felly 15 mlynedd o flaen eiddo Peter Williams. (Gwel Llyfryddiaeth y Cymry, Traethodydd 1852).
EVANS, JOHN, oedd frodor o Geredigion, ac yn un o'r "Ddwy Fil" a drowyd allan mewn canlyniad i basiad Deddf yr Unffurfiad. Dywedir iddo gael ei dröedigaeth mewn modd nodedig. Ar ol bod yn halogi y Sabbath yn y bore, aeth i wrandaw pregeth yn yr hwyr, yr hon fu yn foddion i'w argyhoeddi. Ymunodd â'r Presbyteriaid, ac urddwyd ef yn weinidog yn eu plith. Er nad oedd ei dalentau yn fawr, etto, yr oedd yn ddiwyd a llafurus neillduol yn ngwaith y weinidogaeth, a choronwyd ei ymdrechion â llwyddiant. Bu yn gweinidogaethu am flynyddau yn mhlwyf Cellan, yn agos i Lanbedr. Cynnygiwyd iddo barsonoliaeth gyfoethog os cydymffurfiai, ond ni feiddiai ei derbyn. Mewn canlyniad, trowyd ef allan o Fangor, gerllaw Castellnewydd Emlyn; a bu farw yn fuan ar ol rhoddi Deddf yr Unffurfiad mewn grym.
EVANS, MORGAN, a drowyd allan o Llillue, (fel y sillebir ef gan Walker), neu Ciliau, mae yn debyg, am feddwdod.
EVANS, OWEN, a anwyd yn sir Aberteifi, tua'r flwyddyn 1808. Yr