bwrpasol, ar y geiriau, "Meddyliwch am eich blaenoriaid," &c. Ei oed oedd 57. Gadawodd weddw a thri o blant bychain i alaru o herwydd colli gwr caruaidd a thad serchog.
EVANS, THEOPHILUS, awdwr Drych y Prif Oesoedd, ydoedd bummed mab Charles Evans, Pen y Wenallt, Ceredigion, o'i ail wraig. Bu ei hanner brawd, John Evans, yn athraw yn nheulu y Parch. Philip Henry, tad Mathew Henry. Ganwyd Theophilus yn 1694, ond ychydig wyddis o'i hanes boreuol. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1718, ac yn offeiriad yn 1719, gan esgob Ty Ddewi. Ei guradaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, yn Nghantref Buallt, Brycheiniog. O Dir yr Abad, neu Llanddulais, fel hefyd y gelwir y lle, fe symudodd i Lanlleonfel, yn agos i Langamarch. Yn 1728, rhoddodd esgob Ty Ddewi iddo fywoliaeth fechan Llanynys, yr hon fu yn ei ddwylaw am ddeng mlynedd-hyd nes y cafodd Langamarch. Yn 1739, cafodd Eglwys Sant Dewi, Llanfaes, Aberhonddu, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Yn 1763, rhoddodd fywoliaeth Llangamareh i fyny i'w fab-yn-nghyfraith, Hugh Jones. Mab i'r Hugh Jones yma ydoedd yr enwog Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog. "Wrth bob hanes yr oedd Ficer Llangamarch yn enwog am y rhinweddau hyny sydd yn gwneud dyn yn anwyl i'w gymydogion a'i gyfoedion, yn gystal ag am ei ddysg a'i ddoniau. Yr oedd yn hynod, mae'n debyg, am ei garedigrwydd cyffredinol; ac mewn diniweidrwydd a symlder diddichell, yr oedd yn berffaith blentyn. Arian ni phrisiai fawr. Ei drysorau penaf ef oedd ei lyfrau, gyda pha rai y treuliai lawer iawn o'i amser." Dywedir yn gyffredin mai Mr. Theophilus Evans fu'r cyntaf i ddarganfod rhinweddau iachaol Ffynnon Llanwrtyd, a hyny tua'r flwyddyn 1732. Ymddengys ei fod ar y pryd yn dyoddef yn fawr oddiwrth y scurvy, yr hwn oedd wedi gwreiddio yn ddwfn yn ei gyfansoddiad. Ymddengys iddo fyned un diwrnod ar ei hynt tua'r ffynnon wenwynig, fel y tybiai y trigolion y pryd hyny am dani; ac wedi syllu enyd uwch ei phen, gwelai lyffant yn neidio yn wisgi o honi, yr hyn ar unwaith a'i hargyhoeddodd nas gallai dim gwenwynllyd fod yn y dwfr-cymerodd galon ac yfodd ddracht da o hono, a pharhaodd i wneud hyny am rai diwrnodau. Ni fu ond ychydig amser cyn teimlo effeithiau iachaol yn dilyn, ac o'r diwedd llwyr adferwyd ef. Ond yr hyn sydd yn gwneud ei enw yn fwyaf adnabyddus ydyw y ffaith mai efe yw awdwr Drych y Prif Oesoedd. Ymddangosodd y gwaith yma yn y flwyddyn 1715, ond ail argraffwyd ef ganddo gyda llawer iawn o ychwanegiadau yn 1740. Ennillodd y gwaith yma enw uchel i'w awdwr fel hynafiaethydd ac ysgrifenydd Cymreig; a dygwyd allan amryw argraffiadau o hono o hyny hyd yn awr. Math o hanes byr o'r hen Frutaniaid, fel y gwyddis, yw y llyfr hwn, wedi ei seilio yn benaf ar chwedlau Sieffre o Fynwy,