a Chronicl Caradog o Lancarfan. Ac felly, ni ddylid rhoddi rhyw lawer o bwys ar y gwaith fel hanesyddiaeth; ond y mae ei ddullwedd hollol Gymreigaidd, ystwythder y cyfansoddiad, a phurdeb yr iaith, yn ei wneud ar unwaith y cynllun perffeithiaf i'w ddilyn a'i efelychu gan bawb a fynant ymenwogi fel Cymreigwyr ieithweddiadol. Yn nghylch yr un amser, cyhoeddodd lyfr arall o dan yr enw, Pwyll y Pader, sef esboniad ar Weddi yr Arglwydd, mewn amryw bregethau. Yn 1752, cyhoeddodd A History of Modern Enthusiasm, yn nghydag ail argraffiad o hono yn 1759. Mae y gwaith hwn yn awr yn gystal a'r un blaenorol yn hynod anhawdd eu cael. Yn y gwaith hwn y mae yn trin yr Anghydffurfwyr yn bur chwerw; ond y mae yn dyfynu o'u hawdwyr hwy eu hunain yn bur onest, ac yn nodi y pethau a ystyriai efe yn fwyaf gwrthwynebus yn egwyddorion eu prif arweinwyr. Heblaw y gweithiau uchod, y mae awdwr llafurus a dysgedig Llyfryddiaeth y Cymry yn ychwanegu atynt y rhai canlynol:--1. Galwedigaeth ddifrifol i'r Crynwyr, i'w gwahawdd hwy i ddychwelyd i Gristnogaeth. Cyfieithiad. Mwythig, 1715, 8plyg. Mae yn gysylltiedig â'r Meddyliau neillduol ar Grefydd, gan yr Esgob Beveridge, o gyfieithiad Iago ab Dewi, "Bedwar Englyn o Folawd i'r Llyfr," gan Theophilus Evans, 1717.-2. Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin, mewn pedair pregeth, o waith y Parch. Thos. Bisse, D. D. Cyfieithiad. Mwythig, 1722.-3. Llythyr Addysc Esgob Llundain at y Bobl o'i Esgobaeth. Cyfieithiad. Caerloew, 1740. Yr argraffydd oedd Raikes, sylfaenydd y gyfundrefn o Ysgolion Sul Llyfryn yn erbyn Whitfield a'i ganlynwyr oedd hwn.-4. Gwth i Iuddew. Pregeth. Mwythig, 1752.-5. Drych y Dyn Maleisus. Pregeth. Mwythig, 1752.-6. Y Gwir Ddoethineb. Pregeth. Mwythig, 1751. -7. Y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Pregeth. Mwythig, 1760. Dywed Theophilus Jones, ei ŵyr, fod ei dadcu yn bregethwr grymus ac effeithiol; a phe na buasai genym y dystiolaeth hon, gallasem yn rhwydd gredu fod y gwr a ysgrifenodd Ddrych y Prif Oesoedd yn areithiwr rhwydd a naturiol. Bu yn briod âg Alice, merch Morgan Evan o'r Gelligaled, yn sir Forganwg, o'r hon y bu iddo dri mab a dwy ferch. Priododd un o'r merched â Hugh Jones, a grybwyllwyd yn barod, a hi oedd mam Hanesydd Brycheiniog. Bu Theophilus Evans farw yn y flwyddyn 1767, a chladdwyd ef yn mynwent Llangamarch, lle hefyd y claddwyd ei ŵyr yn 1812.
EVANS, THOMAS, oedd un o'r gweinidogion a fwriwyd allan o Eglwys Llanfihangel Ystrad, mewn canlyniad i roddi mewn grym Ddeddf yr Unffurfiad; ond efe a gydffurfiodd drachefn mewn rhyw gymaint o amser.
EVANS, THOMAS, (Telynog). Ganwyd y bardd ieuanc awenyddol hwn