yn Neppool, Aberteifi, Medi 8, 1840. Saer llongau oedd ei dad, ac efe oedd yr ieuangaf o bedwar o feibion. Ni chafodd nemawr ddim ysgol, ond yr oedd ei awydd am ddysgeidiaeth yn fawr iawn. Pan nad oedd ond lleg oed, rhoddwyd ef ar fwrdd un o'r mân longau a hwylient o Aberteifi i wahanol borthladdoedd Cymru. Ond o herwydd derbyn camdriniaeth a gorfod dyoddef caledi, penderfynodd o'r diwedd roddi y gwaith o forwra i fyny yn gwbl, yr hyn a wnaeth ar ol bod yn gwasanaethu ar ddwy long, yr olaf o ba rai a adawodd yn ddirybudd yn mhorthladd Aberdaugleddyf. Heb brin geiniog yn ei logell, cyfeiriodd ei gamrau tua gweithfeydd Morganwg, ac ymsefydlodd yn Cwmbach, ger Aberdar O'r lle hwn anfonodd lythyr at ei fam ar gân yn hysbysu pa le yr ydoedd, a hwn, mae yn debyg, oedd cynnyrch cyntaf ei awen. Gweithiai yma yn y pwll glo, ac wrth y gwaith hwnw y parhaodd o hyny allan; a chyn pen hir, symudodd ei rieni ato i fyw. Yn ei oriau hamddenol, ymroddodd yn llwyr i astudio llenyddiaeth, awenyddiaeth, a cherddoriaeth Gymreig. Yr oedd er yn ieuanc yn gerddor medrus, yn lleisiwr gwych, ac yn deall y gelfyddyd yn dda. Darllenai awduron hen a diweddar gyda diwydrwydd a manylrwydd mawr. Y wobr gyntaf a ennillodd ydoedd yn Nghyfarfod Llenyddol capel y Bedyddwyr, Cwmbach, lle yr oedd yn aelod, sef am y Bryddest oreu ar "Ostyngeiddrwydd." Ennillodd tua deunaw o weithiau ar ol hyny mewn gwahanol gyfarfodydd ac Eisteddfodau. Yn mhlith ei ddarnau goreu, gellir enwi ei Bryddest ar "Yr Afon," buddugol yn Eisteddfod Ffynnon Taf; a'i ganau ar "Yr Iesu wrtho ei hun," a'r "Darfodedigaeth," y rhai a gynnwysant rai darnau yn ́ mysg goreuon yr iaith. Pan y cymerwn dan ystyriaeth ei ieuenctyd, a'i anfanteision, yn nghyda'r ffaith ei fod yn gorfod gweithio yn galed bob dydd er cynnal ei hunan a'i fam, mae yn syndod iddo gyfansoddi cymaint, a hyny mor dda hefyd. Diau pe cawsai hir oes y buasai yn cael ei restru yn nosbarth blaenaf beirdd ei wlad. Am y chwe' blynedd olaf o'i oes yr oedd mewn brwydr barhaus â'r darfodedigaeth; ac yn ystod ei gystudd nychlyd, cyfansoddodd lawer o ddarnau swynol a melus iawn. Er ei holl ragoriaethau fel bardd a Christion, ac er yr holl obeithion a goleddid gan ei gyfeillion am ei adferiad, symudwyd ef gan angeu, Ebrill 29, 1865, yn 25 oed; a chladdwyd ef yn cemetery Aberdar.[1]
EVANS, TIMOTHY, gweinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn Llanddewi Brefi, ond ar y dechreu gyda'r Annibynwyr. Brodor oedd o Cilcenin, ac yr oedd ei dad yn perchen fferm yn y plwyf hwnw, ac yn byw arni. Cafodd T. Evans fanteision addysg yn gyntaf o dan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac wedi hyny yn Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd
- ↑ Cyhoeddwyd cyfrol ddestlus o'i weithiau yn ddiweddar, dan olygiaeth Dafydd Morganwg, a Mr. Hywel Williams, Pantygerddinen.