ef yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn y Plough, Aberhonddu, tua'r flwyddyn 1826; a bu yn gweinidogaethu yno hyd y flwyddyn 1838, pryd yr ymadawodd, ac yr ymunodd â'r Eglwys Sefydledig. Wedi hyn gwasanaethodd fel curad yn Llanddewi Brefi, lle y bu farw. Mae yn ffaith lled hynod fod rhagflaenydd Mr. Evans yn Aberhonddu, sef y Parch. Evan Davies, wedi ei ddwyn i fyny i'r Eglwys Sefydledig, dan olygiad Mr. Baker, yn Ngholeg yr Eglwys yn Nghaerfyrddin, ac iddo newid ei farn am natur a threfn llywodraeth eglwys Crist, a chael ei urddo yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn Aberhonddu, tra y darfu i'w olynydd adael yr olaf ac ymuno â'r blaenaf.
EVANS, TITUS, gweinidog gyda'r Undodiaid yn yr Onenfawr, ger Llandeilo; ac athraw yr ysgol yn Mharc y Velvet, Caerfyrddin, oedd frodor o gymydogaeth Aberaeron, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. Derbyniodd ei addysgiaeth yn Athrofa Caerfyrddin, dan ofal y Parchn. Dr. Lloyd, a D. Davies, Pantteg. Wedi gorphen ei amser yno, urddwyd ef yn weinidog yn Rhydyparc; ac agorodd ysgol Ramadegol yn Nghaerfyrddin, yr hon fu yn dra defnyddiol er cymhwyso dynion ieuainc i'r Athrofa. Gan fod ffordd faith ganddo i fyned i weinidogaethu o'r naill gynnulleidfa i'r llall, mynodd geffyl pren i'w gludo; a chan nad oedd y cyfryw anifail yn gofyn ceirch na phorfa, ac felly yn hawdd i'w gadw, ymddengys iddo roddi mawr foddlonrwydd i'r amaethwyr yn ardal Rhydyparc. Ymfalchiai Mr. Evans yn fawr yn ei anifail; ond un diwrnod, wrth ddyfod i lawr y rhiw yn agos i'r dref, collodd bob llywodraeth arno, a thaflwyd ef i lawr gyda'r fath ffyrnigrwydd nes derbyn niwaid mawr. Y canlyniad fu, na welwyd ef yn ei farchogaeth ond hyny. Bu Mr. Evans yn dra defnyddiol fel gweinidog yn gystal ag yn mhob cylch y troiai ynddo. Ystyrid ef yn ddyn cydwybodol, yn gymydog cymwynasgar, ac yn gyfaill serchog a ffyddlawn; ac fel y cyfryw, perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenent. Bu farw boreu dydd Llun, y 29ain o Chwefror, 1864, ar ol byr gystudd, a chladdwyd ef yn y cemetery, ger y dref, a gosodwyd maen coffadwriaeth hardd ar ei fedd. Gellid barnu y parch cyffredinol oedd iddo oddiwrth y lluaws dynion parchus y dref a'r gymydogaeth, a'r nifer fawr o weinidogion o wahanol enwadau, ag oeddynt wedi dyfod yn nghyd, rai o bell ffordd, er gwneud y gymwynas olaf iddo trwy gludo ei ran farwol i "dŷ ei hir gartref."
GAMBOLD, WILLIAM, a anwyd yn Aberteifi, Awst 10, 1672. Derbyniodd ei addysg elfenol yn ysgolion goreu ei wlad ei hun, a gorphenodd ei yrfa efrydol yn Ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn mhen rhyw dymmor ar ol ei urddo, penodwyd ef i ficeriaeth Puncheston a Llanychaer, yn sir Benfro. Oblegid iddo gael ei analluogi i gyflawni dyledswyddau y wein