Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENWOGION Y FFYDD.

PENNOD I.

LLYFR I.

PENNOD I.

AMCAN Y GWAITH.

YN y ffurf o hanes a buchdraeth y dadguddiodd yr Ysbryd Glâny rhan fwyaf o egwyddorion crefydd yn y Beibl. Gosodwyd, gan hyny, warant ac urddas arbenig ar y gangen hon o lenyddiaeth, ac nis gallwn ninnau wneyd yn well na dilyn yr esiampl ysbrydoledig yn ein hymdrech i ledaenu athrawiaethau yr efengyl.

Dywediad cyffredin yw, fod "Gwybodaeth yn allu." Wrth hyn rhaid ini olygu a deall dau beth; sef, fod gwybodaeth yn cynnyrchu cyfnewidiad o fewn y dyn, a'i bod yn galluogi dyn i ddarostwng pethau allanol i'w amcanion ei hun. Yr olaf o'r ddau feddwl yma i'r ymadrodd a olygir yn gyffredin pan y'i defnyddir; sef, fod gwybodaeth yn dysgu dyn i ddefnyddio a mwynhau sylweddau a galluoedd y greadigaeth. Pwysig iawn yw hyn i ddyn yn ei fywyd ar y ddaear, ac yn ei berthynas â'r byd; ond y mae y cyntaf, sef dylanwad gwybodaeth ar y meddwl ei hunan, yn llawer pwysicach i ddyn yn ei gysylltiadau uchaf a chyda rhagolwg ar sefyllfa ddyfodol mewn byd ysbrydol a thragywyddol. Un peth yw amgylchiadau allanol dyn, a pheth arall ydyw ei gyflwr a'i ansawdd ef ei hun.

Gwybodaeth o natur, yn ei gwahanol gangenau, sydd i effeithio ar amgylchiadau dyn. Dyna sydd i roddi iddo allu dros elfenau y gread- igaeth. Ond hanesiaeth, fel gwybodaeth o ffeithiau ac egwyddorion cymdeithasol, sydd i daylanwadu yn fwyaf uniongyrchol ar y dyn ei hunan. Ym- wneyd â dyn fel aelod o gymdeithas, yn boliticaidd, gwareiddiol, a chrefyddol, y mae hanesyddiaeth; ac y mae swyn neillduol yn perthyn iddi. Y mae bywgraffiad yn gyfyngach ei derfynau, ond yn ddyfnach a grymusach ei argraff ar y meddwl. Bywgraffiaeth yw y wybodaeth sydd yn ymwneyd â bodau, tra mai drychfeddwl neu arddansoddiad ydyw gwrthddrych hanesiaeth gyffredinol. O unigolion y gwneir i fyny gymdeithas. Gall unigolion hanfodi heb gymdeithas, ond y mae yn annichon- adwy i gymdeithas fod heb unigolion i'w chyfan- soddi. Y dyn, fel y cyfryw, sydd fwyaf dyddorol i ddyn; oblegid yn ei hanes gwel ei ddelw ei hunan a'i brofiad personol. Unigolion, dynion mawr a hynod, sydd wedi gwneyd hanes, ac y mae bywgraffiad rhyw ychydig o enwogion mewn byd ac eglwys yn rhwym o gynnwys holl hanes y ddynoliaeth.

Gellir edrych ar ddyn o wahanol gyfeiriadau, ac y mae bywyd yn cael ei wneyd i fyny megye o wahanol elfenau. Nid ungainc ydyw bywyd, ond y mae yn gordeddedig. Cynnwysa edefyn o boliticiaeth, ac un arall o deuluyddiaeth, a thrydydd o grefydd. Ond yn y cyffredin, mae rhyw egwyddor lywodraethol yn mywyd pob dyn. O'r aelwyd y rhaid edrych ar ambell ddyn, ar faes y gwaed y mae hynodrwydd dyn arall, tra y mae arall wedi gwneuthur celfyddyd yn brif bwnc ei fywyd. Ond yr ydym ni yn bwriadu, yn y gwaith hwn, edrych ar ychydig o enwogion ein gwlad ein hunain oddiar safle grefyddol. Dyma y gallu sydd yn dylanwadu yn ddyfnaf ar feddwl dyn ac ar ei dynged yn unigol, yn gystal ag ar fuddiannau cymdeithas yn gyffredinol. Crefydd sydd yn uno ynddi ei hunan holl egwyddorion y galon a holl