Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amcanion bywyd, gan wneuthur y cwbl yn is-wasanaethgar iddi ei hun. Oddiar y safle hon y cawn olwg gyflawn ar y dyn yn hanfodion ei gymeriad ac yn ei gysylltiadau pwysicaf. Bywgraffiaeth grefyddol yw y ffurf fwyaf dyddorol y gall gwybodaeth ei chymeryd. Y mae hanes crefydd yn gynnwysedig mewn hanes dynion duwiol. Crefyddwyr enwog ein gwlad a gynnyrchasant hanes crefydd yn Nghymru. Wrth adrodd hanes enwogion y ffydd," yr ydym yn adrodd hanes y ffydd ei hunan, ond mewn dull dyddorol a difyr. Felly, golygwn i'r gwaith hwn fod yn hanes cyf lawn am holl helyntion crefyddol ein gwlad o gyfnod rhyfedd y Diwygiad Protestanaidd hyd y dyddiau presennol.

Dyma, yn ddiau, yr amser gogoneddusaf a fu erioed ar grefydd yn Nghymru. Tlawd iawn yw ei hanes yn yr oesoedd tywyll blaenorol, a difudd mewn cymhariaeth ydyw yr ymchwiliadau i'r oesau cyntefig. Hanes crefydd yn dadfeilio, yr efengyl yn ymlygru, a'r eglwys yn ymsuddo i gyfeiliornadau, ydyw hanes y canrifoedd rhagflaenol. Nid yw y cyfryw yn ddiaddysg i ni; ond cyfoethocach gan waith, a melusach fil o weithiau, ydyw gweled yr eglwys yn deffro ac yn ymddyrchafu o'i sefyllfa o waradwydd. Mwy dymunol, yn gystal a mwy addysgiadol, ydyw hanes pureiddiad crefydd a dyrchafiad ei sefydliadau oddiwrth ofergoeledd a llygredigaeth. Ymdrechwn ddangos drwy yr holl waith fel y mae Rhaglun- iaeth a Gras wedi bod yn cydweithio mewn ffyrdd dirgelaidd a rhyfedd i ddyrchafu ein gwlad mewn moesoldeb a duwioldeb, ac i ddwyn ein hen genedl anffodus i afuel trysorau efengyl bur. Gobeithiwn drwy hyny fod yn offerynol i ryw raddau i ddeffro sel yr oes bresennol dros egwyddorion mawrion y Diwygiad, ac i greu awydd mewn ambell galon. am feddiannu crefydd bersonol. Fel y mae yr efengyl i'w chanfod yn hanes yr eglwys, felly y mae Crist yn eglur yn mywyd ei saint, a'r amcan uchaf y gellir ei gyrhaedd ydyw dangos daioni a gogoniant Crist i bechadur.

Iesu Grist yw y dyn perffaith, am ei fod ar ddelw Duw ac fod y Duwdod yn preswylio ynddo. Ei fywyd Ef yn y byd ydyw eynllun ac esiampl holl blant Duw. Gosodwyd ei hanes Ef allan gan yr Ysbryd Glân mewn pedwar bywgraffiad, yn y pedair Efengyl. Yr un egwyddorion, amcanion, ac ysbryd, ag a ddangosir yno sydd i feddiannu pawb. Yn yr Efengylau y cawn ddadblygiad o'r bywyd gogoneddusaf a fu erioed ar y ddaear ag sydd bosibl i greadur. Yr oedd Crist yn berffaith Dduw, ac ar yr un pryd yn ddyn perffaith. I'r graddau y bo canlynwyr yr Arglwydd Iesu yn uniongred yn eu golygiadau, yn bur yn eu bywyd, yn hunan-ymwadol a goddefgar yn eu hysbryd, a'u calonau yn llawn o gariad gweithredol tuagat bawb, i'r un graddau yr adlewyrchant gymeriad a bywyd Iesu Grist. "Chwi yw goleuni y byd," ebai Efe wrth ei ddisgyblion. Yr elfen fawr a ganfyddir yn nodweddu dynion da pob oes a gwlad ydyw ysbryd y Gwaredwr. Am hyny y dylem chwilio wrth ddarllen eu hanes. Fel y mae y greadigaeth naturiol yn arddangos mawredd, gallu, a doethineb y Tad, felly y mae y greadigaeth newydd yn nghalon pechadur yn dangos gogoniant y Mab. Gallwn weled yn ymarweddiad ei saint Ef egwyddorion ei deyrnas, a nodweddion ei fywyd ysbrydol, yn cael eu gweithio allan mewn gwahanol bersonau o dan bob math o amgylchiadau. Mewn bywgraffiad gwelir crefydd yn ei gwaith, Cristionogaeth wedi ei phersonoli, a'r Arglwydd Iesu megys yn ailfyw ar y ddaear. Wrth gwrs, y mae llawer o ddiffygion a ffaeleddau yn y goreu o ddynion. Ni ddaeth neb, ond y Sylfaenydd mawr ei hunan, erioed i fyny â drychfeddwl perffaith yr efengyl. Mewn gwirionedd, y mae pawb o'i ganlynwyr penaf wedi syrthio yn anfeidrol fyr o gyrhaedd y nod. Nid ydym yn bwrw ddarfod i neb o honynt gael gafael, ond yn unig eu bod yn ymestyn ac yn cyrchu at y nod. Yr un modd yn union y mae gyda golwg ar y greadigaeth weledig. Er fod rhai yn myned i eithafion wrth son am ei hardderchogrwydd, ac yn ei gwneyd fel Duw ei hunan yn anfeidrol berffaith, y gwir yw, ei bod yn llawn diffygion ac anmherffeithderau. Syniad deistaidd yw fod y byd yn berffaith. Addefwn yn rhwydd ei fod yn ardderchog; ond, fel pob peth meidrol, ei ragoroldeb penaf yw ei fod yn ymgyrhaedd at berffeithrwydd. Rhaid fod rhyw gysgod o wirionedd yn mhob cyfeiliornad (os nad yw enaid daioni mewn pethau drwg, fel y myn rhai), a dyma y gwirionedd sydd yn y damcaniaethau diweddar a gyhoeddwyd gan Darwin a Spencer yn nghylch dadblygiad rhywogaethau, ac a addefir fel egwyddor sylfaenol daeareg. Nid byd yn aros yn ei unman nac yn troi mewn cylch ydyw y ddaear, ond gwaith yn cael ei gario yn mlaen yn raddol a chyson yn ol cynllun rhagosodedig ac yn cyfeirio drwy bob cyfnewidiad at gyflwr o berffeithrwydd. Felly yn union y mae bywyd