Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf/450

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n bur hyfryd genym weled nad mewn geiriau yn unig y dangosodd ei frodyr eu parch i goffadwriaeth yr enwog JOHN HUGHES O Bont- Robert, eithr mewn gweithred a gwirionedd, canys yn y fl. 1866, ymhen tu a deuddeng mlynedd ar ol ei farwolaeth, rhoddes Cyfarfod Misol y sir gof- golofn hardd ar ei fedd, ac yn gerfiedig arni brif neillduolion ei gymmeriad.*

ARTHUR JONES, D.D.

Ganwyd y gŵr enwog hwn yn Llanrwst, ar y 12fed o Chwefror, 1776. Yr oedd ei dad yn ŵr parchus yn y dref, yn dal y Felin Isaf, ac yn golygu drosti fel y prif felinydd; a threuliodd yntau ryw faint o'i ddyddiau boreuol fel melinydd. Yr oedd ei fam, Elen Elie Morgan, yn disgya o'r un llinach a'r Dr. William Morgan, Esgob Llanelwy, y cyfieithydd cyntaf o'r holl Fibl i'r iaith Gymraeg. Ni wyddys ddim pa fanteision dysg a gafodd yn ei ddyddiau boreuaf; ond gan fod ei rieni mewn sefyllfs gysurus, gellir casglu iddo gael rhywfaint o ysgol yn oes ei dad; ond bu ef farw pan oedd Arthur yn ieuange; ac ail briododd ei fam yn lled fuan, a newidiodd ei sef- yllfa yatau yn y teulu er gwaeth mewn canlyniad i hyny.

Pan oedd Arthur rhwng 17 a 18 oed, ymunodd Ag eglwys y Methodistiaid yn Llanrwst; a chan ei fod yn fachgen cryf, iach, a bywiog, ac yn cael ei ystyried fel bleunor yn chwareuon ei gyfoedion cyn hyny, yr oedd cryn betrusdod ym meddyliau yr hen frodyr gwyliadwrus yn ei gylch ar y dech- rau; ond gwelodd y rhai mwyaf craffus yn eu plith yn fuan fod defnydd Cristion llafurus a defn- yddiol yn y llange ieuange hoenus hwnw, a deuth- ant yn anwyl iawn o'u gilydd. Am y rhai hyn efe a ddywed-"Nis gallaf gyflawni un gorchwyl crefyddol heb gofio dechreuad fy ngyrfa yaprydol, s rhyw ddynion anwyl a fuont yn gyfeillion gwerthfawr, dyogawdwyr dawnus, a chyfarwydd- wyr gofalus i mi. Nid digon fyddai genyf, pe gallwn, ddodi aur ar gerrig eu beddau: hoff iawn genyf eu coffad wriaeth."+

Ymddengys iddo symmud i Nerpwl yn bur gynnar yn ei yrfa grefyddol, canys dywed-" Yn society y Methodistisid yn Llanrwst ac yn Liverpool, lle yr arhosais dros amser, dysgais lawer o bethau da;"; ac ymhlith y pethau hyny, diau

iddo ddysgu cryn lawer o Saesneg, yn enwedig yn Nerpwl. Dywedir mai o gylch y pryd hyn y dechreuodd Arthur Jones bregethu; ac yn fuan wedyn, gosodwyd ef ym Mettws-y-coed, dan nawdd y Parch. T. Charles, fel egwyddorydd a chynnorth- wywr, trwy gadw ysgol ddyddiol i blant yr ardal, a phregethu yn y gororau, fel y byddai galwad am dano, ac amgylchiadau yn caniatâu. Symmudodd o'r Bettws i Ddinbych i gadw ysgol ddyddiol. Dywed un o'i fywgraphwyr iddo weled llyfryn a ysgrifenwyd ganddo y pryd hyn, a elwid Orthoepy [Cynaniaeth], yn cynnwys rhestr helaeth o'r geir- iau mwyaf dieithr a dyrys o'r iaith Saesneg, a'r modd i'w cynanu, neu eu seinio yn briodol, at wasanaeth ei ysgolheigion yn ei ysgol ei hun; ac nid hawdd y gallesid eyhoeddi dim buddiolach at yr amcan yn wyneb amgylchiadau yr oes honno. Ni byddai yn syn genym nad dyma'r gwaith cyntaf a dynodd yr awdur trwy'r wasg." Wedi ymsefydlu yn Ninbych, priododd ferch y bardd poblogaidd, Thomas Edwards (Twm o'r Nant). Yr oedd hi yn ferch ieuange grefyddol, ac yn llawn o wybodaeth ac athrylith, fel ei thad a'i mam, ac yn cadw siop yn Ninbych. Aeth yntau, wrth reswm, i fyw ati; ond bu hi farw yn fuan ar ol priodi, yr hyn a ddilynwyd yn fuan gan helbulon tost gyd â'r fasnach. Ymddengys i'w gyfeillion crefyddol ymddwyn ato, mewn canlyn- iad, yn llawer rhy erwin, yn ol ei farn ef, o leiaf. Mewn cyfeiriad duchanllyd at hyn, efe a ddywed -"Yn society tref dinbach gwelais ddynion nad enwaf gwedi cymmeryd hawl i gario megis caib a gordd heb wybod y pryd a'r modd gorau i'w trin." Mewn amser cyfaddas, priododd Mr. Jones eilwaith & merch synhwyrol a chrefyddol, yr hon a fu'n ymgeledd gymmwys iddo hyd ei fedd. Yn fuan wedi hyny, ymneillduodd oddi wrth y Methodistiaid, ac ymunodd a'r Annibynwyr yn Ninbych; a phan edliwiodd un o'i hen frodyr iddo ei fod wedi gwrthgilio, dywedodd yntau yn y fan—

"Nac ydwyf: nid wyf wedi gwrthgilio. Yr wyf etto gyd i'r un gwaith, yn yr un filwriaeth, a than yr un Tywysog; ond yr wyf wedi enlistio oddi wrth y Militia at y Regulars." Ni chlywodd son mwyach am ei wrthgiliad; a diau na feddyliodd ei galon yntau erioed am wrthgilio, o'r dydd cyntaf yr ymunodd â chrefydd hyd ei ddydd olaf. Ymddengys mai derbyniad lled oeraidd a gafodd Mr. Jones ar ei ymuniad cyntaf i'r Annibynwyr, yn enwedig gan bregethwyr lleiaf y cyfundeb; ond daeth y dynion mwyaf yn gyfeillion


  • Gwyddoniadur, cyf. z., t. 602; Cofiant Ann Griffiths, gau J. H.

ei hun; Method. Cymrn, cyf. ii., t. 416; En Cymru, J. T. J., cyf. i., t. 661; Ea. Cymra, I. F., t. 512. † Pyagciau Athrawiaethol, Rhagym., t. xvii. ‡ Yr un lla.