Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf/451

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chefnogwyr caredig iddo, megis T. Jones, St. George; J. Roberta, Llanbryn-mair; W. Griffiths, Glandwr; J. Griffiths, Caernarfon; y Dr. George Lewis, ac eraill.

Yn y fl. 1809, derbyniodd A. Jones alwad oddi wrth eglwys Annibynol Bangor; ac ar y 3ydd o Ionawr, 1810,"urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth." Llafuriodd yno, ac yn y gororau o amgylch, yn ddiwyd, a bu o fendith i laweroedd. Ymhen rhyw yspaid wedi ymsefydlu yno, dech- reuodd Mr. Joncs gyhoeddi syniadau duwinyddol y Dr. Ed. Williams, o Rotherbam, yr hyn a gyff- rôdd lawer o'r pregethwyr i'w wrthwynebu yn eiddigus, a llwyddasant i gyffröi amryw o aelodau yr eglwys ym Mangor yn ei erbyn ; ond yr oedd efe yn rhy gydwybodol a phenderfynol i wadu yr egwyddorion a gredai; am hyny, ymadawodd o Fangor, ar ol bod yno am chwe blynedd; ac yn y fl. 1814, aeth i bregethu i'r Cymry yn Woolwich a Deptford, ger llaw Llundain, lle yr oedd llawer o honynt yn gweithio, yn ystod y rhy fel & Ffraingc, yn llong-gadlasau (dockyards) y Llywodraeth. Ond wedi i'r rhyfel ofnadwy honno ddarfod, ymadawodd llaws o'r Cymry; ac yn y fl. 1823, derbyniodd Mr. Jones alwad oddi wrth ei hen gyfeillion ym Mangor; a dychwelodd yntau atynt, a llafuriodd yno a manau eraill yn ddiwyd am 31 o flynyddau. Yn lled fuan ar ol ei ddychweliad i Fangor y waith hon, aeth yr hen gapel yn rhy fychan, ao ail adeiladwyd ef, ynghyd à thy i'r gweinidog dan yr unto, ac yegoldy helaeth o'r tu cefn i'r tý a'r capel. Sefydlwyd ysgol ddyddiol yn yr yagoldy yn ebrwydd, yn yr hon y cymmerai Mr. Jones fawr ddyddordeb, gan fod addysgu plant a phobl ieuainge yn waith tra hoff ganddo. Yn lled fuan ar ol sefydlu yr ysgol, llwyddodd i gael 25p. o waddol y Dr. Williams, i dalu rhan o gyflog yr athraw, ac i brentisio rhai o'r yagolheigion; a derbyniodd ugeiniau lawer o blant Bangor a'r gororau addyeg ynddi, er eu cymhwyso i gyflawni gwahanol ddyledswyddau bywyd. Yn y f. 1838, cyhoeddodd Mr. Jones ei brif waith, enwad- ddalen yr hwn sydd fel y canlyn:-

Pyngeisu Athrawiaethol: : yn y rhai y mae amryw Ganghenau Yegrythyrol, y rhai sydd angenrheidiol anhebgorol i dywys y Meddwl i Gyssondeb y Ffydd, yn ol y Bibl Sanctaidd. Gan y Parchedig Arthur Jones, Bangor.

"Disgwylir y byddant o fudd mawr,

"I. I roddi gwersi o honynt i'r Ysgolion Sabbothol.

"II. I eu darllen yn achlysurol mewn teuluoedd.

  • III. I gynhyrfu a chychwyn cyd-ymddiddanion mewn

cymdeithasau crefyddol.

"IV. I'w cymmeryd o'r llawgell i edrych iddynt (wrth gyfleusdra) mewn gwaith neu ar daith."*

Dywed un o'i fywgraphwyr mai mewn canlyniad i gyhoeddiad y llyfr uchod y derbyniodd Mr. Jones "y radd o D.D., o'r America;" ond ei fywgraphwyr eraill a ddywedant mai "o brifysgol Giessen, yn yr Almaen, y graddiwyd ef â'r urdd o D.D.;" ond ni chrybwyllant hwy mai mewn canlyniad i gyhoeddiad y "Pyngciau Athrawiaethol" y graddiwyd ef. Cyhoeddodd y Dr. Jones amryw draethodau eraill yn ei ddydd, a rhai pregethau; a than ei olygiad ef y cyfieithodd Mr. R. Parry (Robyn Ddu Eryri) Fleetwood's Life of Christ (Bywyd Crist gan Fleetwood) i'r iaith Gymraeg. Wedi llafurio yn ddiwyd iawn ym Mangor dros yr yspaid maith a nodwyd, fel pregethwr ac awdur, ym Medi, 1854, yn ddiaymmwth, ac yn gwbl ddi drwst, rhoddes ei wasanaeth i'r eglwys yno i fynu, er prudd-der dwys i aelodau yr eglwys, a symmud- odd i Gaerlleon i fyw, at ei ferch Sara, a'i gŵr, E. G. Salisbury, Ysw., diweddar aelod seneddol dros ddinas Caer; ac yno y terfynodd ei yrfa ddeuarol, yn dduwiol ac anrhydeddus. Ychydig amser cyn ei farwolaeth, aeth ei fab, y Parch. Eliezer Jones, Ipswich, i ymweled ag ef, a dywedodd -"Fy nhad, y mae'r breichiau tragywyddol oddi tanoch, onid ydynt ?" Trodd yntau ato gyd ig edrychiad meddylgar, gan ddywedyd-"Fy mach- gen i, yr oeddynt felly yn wastadol; a phan na byddwn yn eu teimlo un ochr, byddwn yn eu teimlo yr ochr arall. O bu yr Arglwydd ben- digedig yn dda iawn i mi holl ddyddiau fy mywyd." Yn y teimlad duwiolfrydig yma yr ehedodd yspryd y gwron Cristionogol enwog yma "st Dduw yr hwn a'i rhoes ef," ar y 29fed o Chwefror, 1860, ac efe yn 84 oed. A dydd Llun, y 5med o Fawrth canlynol, claddwyd ei gorph yn yr un bedd ag y claddasid ei fab, John Jones, wrth gapel Bethlehem, Caegwigyn, Tal-y-bont, ger llaw Bangor. O ran ei berson, ут oedd y Dr. Jones yn lled dal, yn tueddu at fod yn gorphorol yn ei hen ddyddiau. Yr oedd ei safiad yn syth, cadarngryf, a phrydferth; a'i wyneppryd yn arddangos hawddgarwch, penderfyniad, ac annibyniaeth. O ran


  • Cyfrol 8plyg ydyw'r gwaith, yn cynnwya 360 o dudalenau, heb law

18 tudalen o arweinolion; ac y mae'n llyfr tra gwerthfawr, a dylai fod ymhob teulu Cymreig ymhob parth o'r byd. Math ar drenthodau o wabanol hyd, ar gynllan pregethau, ydyw, wewn ymadroddion fractb a byrion, ar wahanol eiriau ac ymadroddion, ya cynnwys "Pyagciaa Athrawiaethol Cymmerir y geiriau a gynhwysant y pyngciau yn y dull egwyddorul, fel byn:-Abba, Aberth, Adenedigaeth, Adgriodiad, &e; Barn, Bedydd, Bendith, Bibl, &c.; Cydaynind mewn tilan Briodas, Cyfiawnhad, Cyfammod, &c.; Duw, Dyledswydd Teulu; a chyd A'r erthygl hon y terfyna y gwaith.