Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf/452

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangosiad yr oedd yn bendefig, o ran ymddygiad yn foneddwr, ac o ran yapryd yn Gristion. Yr oedd yn nodedig am noddi talent, amddiffyn y gwan, ac adgyweirio y dirywiedig. Buasai yn hawdd ysgrifenu llyfr ar ei ragorieuthau fel pregethwr, ysgrifenydd, diwygiwr, gwladgarwr, Annibynwr, ac fel Cristion; ond rhaid ymattal.*

HUGH HUGHES.

Y gŵr enwog a llafurus hwn a anwyd mewn lle a elwid Y Llan, ymhlwyf Llanor, ger llaw Pwllheli, sir Gaernarfon, ar y 14ydd y Fedi, 1778. Dygwyd ef i fynu yn arddwr, a symmudodd i Nerpwl pan yn lled ieuange. Dygwyd ef i wrando y Wesleyaid gan ei frawd Robert, yr hwn oedd yn bregethwr lleol yn y fl. 1805. Yn Nerpwl y dechreuodd bregethu, a galwyd ef i'r gwaith teithiol yn y fl. 1807. Bu'n ddadleuwr zelog, yn ei flynyddoedd cyntaf, o blaid Arminiaeth, a daeth i wrthdarawiad, yn enwedig yn y Gogledd, â rhai yn credu Calfiniaeth. Yn y Deheudir y bu'n teithio gan mwyaf, a llwyddodd i chwanegu llawer at yr eglwysi ynghylchdeithiau Aberhonddu, Llanidloes a manau eraill. Yr oedd yn ddiwyd gyd â holl ranau y gwaith. Rhoddai sylw neillduol i'r Ysgolion Sabbothol, a gwnai hwy yn allu mawr yn y cylchoedd y troai ynddynt. Gwnai ei egni er dadblygu galluoedd pobl ieuaingo ymhob man lle yr elai. Bu'n ddiwyd iawn hefyd i dalu dyled capeli ymhob cylchdaith yr elai iddi.

Heb law yr holl lafur a nodwyd, gwasaneuthodd ei genedl yn ffyddlawn trwy'r wasg. Dechreuodd yn forau ysgrifenu i'r Eurgrawn. Yn 1818, cyf ieithodd dalfyriad o "Brif Physygwriaeth" Mr. Wesley; ac o gylch yr un amser, mewn undeb â'r Parch. John Williams yr ail, cyfieithiodd "Esponiad ar y Testament Newydd, gan y Parch. John Wesley, M.A.," a llwyddodd i gael gan y gweinidogion gyd-ddwyn y draul. Mewn cyssylltiad a'r un gŵr, cyhoeddodd " Y Goleuad Dwyreiniol," er egluro arferion a defodau dwyreiniol, fel cynhorthwy i ddeall llawer o ranau tywyll yr Ysgrythyrau. Cyfieithodd a chyhoeddodd hanes Y Maria Mail Boat, yr hon oedd yn rhwym i'r India Orllewinol, gyd â nifer o genhadon ar ei bwrdd; a chafodd gylchrediad helaeth o herwydd y swyn cyffrous a thorcalonus oedd yn yr hanes.

Ysgrifenodd Ddyddlyfr helaeth hefyd, yn cynnwys nodiadau manwl ar amgylchiadau y byd a'r eglwys yn ei amser, yr hwn sydd yn gwnend y rhan fwyaf o'i Gofiant, a barotowyd i'r wasg gan ei fab ynghyfraith, y Parch. Isaac Jenkins. Yn y f. 1829, pennodwyd ef yn Gadeirydd

"Ail Dalaeth Ddeheuol Cymru;" ac ni bu neb ffyddlonach nag ef yn y swydd, a chadwodd serch ac ymddiried ei frodyr ef ynddi hyd onid ymneillduodd i orphwys fel "Uwchrif" yn y fl. 1843.

Yn y fl. 1834, etholwyd ef yn un o'r "Cant Cyfreithiol" sy'n ffurfio y Gynnadledd Wesleyaidd; ac ymddengys mai efe oedd y cyntaf o'r brodyr Cymreig a gafodd yr anrhydedd hwnw, yr hwn a gyfrifir yn uchel iawn yn y cyfundeb.

Pan ymneillduodd o'r gwaith teithiol, ymsefydlodd yn nhref Caerfyrddin; ac, yn ol ei nerth, ymroddai i wasaneuthu yr achos trwy bregethu, ymweled o dy i dy, blaenori rhestr (class), a thrwy gefnogi pob sefydliad daionus yn y dref a'r am- gylchoedd. Er ei fod yn ddyn gwrol a phender fynol, etto yr oedd yn gyfeillgar a hygar gyd â phawb. Yr oedd yn ymlynydd tyn wrth ei bobl ei hun; er hyny ymgymmysgai â phawb i hyrwyddo teyrnas Iesu Grist ym mlaen. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd. Bu farw yn orfoleddus ar y 17fed o Ragfyr, 1855, yn 77 oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth am 47 o flynyddau.†

JAMES HUGHES.

Ganwyd y gŵr enwog a llafurus hwn yn y 1779, mewn lle a elwid Y Neuadd-ddu, ymhlwyf Ciliau Aeron, wrth droed y mynydd Trichrug, yn air Aberteifi, ac oddi wrth y mynydd hwaw y cymmerth ef ei enw barddonol ymhen amser wedyn, sef." Iago Trichrug." Dywedir na chafodd ond ychydig iawn o fanteision addysg yn ei icuengo- tid, gan y cedwid ef i ddilyn gorchwylion amaethyddol a bugeiliol, canys dywed ei hun ei fod,pan yn

"Iraidd langC,
Yn arail praidd ei dad ar ben y bange."

Cyn gynted ag y daeth yn ddigon cryf, prentisiwyd ef gan ei rieni i ddysgu gwaith gof. Er nad oedd ei rieni yn proffesu crefydd, etto yr oedd James, er yn blentyn, yn dra hoff o gyfarfodydd crefyddol. Un nos Sul yn haf 1797, pan oedd



  • Pynge. Athraw., t. xvii.; Beirniad, rhif, xxv., xxvi., xxviii.; Eq.

Cymru, J. T. J., cyf. ii., t. 22; Ea, Cymru, J. F., t. 568; Gwyddon., cyf. vi, t. 402; Han. Egl. Annib. Cymru, cyf, iii, t. 278.

Ysgrif y l'arch. H. Jones, Caerlleou; Cofiant, gan y Parch. 1. Jenkins; Enwog. Cymru, J. T. J., cyt. i, t 551; Enwog. Cymru I. F., t. 606.