Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf/463

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr adnabyddwyd ef o hyny hyd ei fedd, ac, yn wir, hyd heddyw. Bu ei fynediad yno o fendith fawr i'r plwyf hwnw, a'r holl wlad o amgylch; ie, bu ei lafur ef fel pregethwr enwog a llafurus yn fendith i Gymru benbaladr, ac i'r Cymry yn gwahanol drefydd Lloegr.

Yn y fl. 1810, pennodwyd Mr. Richard yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir; ac ar yr 11fed o Awst, 1811, yng Nghymmanfa Llandeilo-fawr, neillduwyd ef a deuddeg eraill o wahanol siroedd y Deheubarth i weini bedydd a swper yr Arglwydd. Parodd hyn gyffro dirfawr, nid yn unig ym mysg yr hen offeiriaid Methodistaidd, megis Jones o Lan-gan, Nathaniel Rowlands, ac eraill, fel y gwelsom yn y pennodau blaenorol, ond hefyd ym mysg rhai Methodistiaid anurddedig. O herwydd y cythrwfl dan sylw, barnai rhai Eglwyswyr zelog a chrefyddol ei bod yn adeg y gellid denu rhai o'r prif Fethodistiaid i gymmeryd "urddau Esgobol;" ac yr oedd Mr. Richard yn un o'r rhai cyntaf yr ymosodwyd arno. Er mwyn cyrraedd yr amcan, aeth un o brif offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn sir Aberteifi at John Jones, Ysw., Dery Ormond, ger llaw Llanbedr, yr hwn oedd berthynas agos i Mrs. Richard, i ddeisyf arno ymdrechu cael gan Mr. Richard dderbyn "urddiad Esgobol." Gan nad oedd Mr. Jones yn gwir adnabod cymmeriad Mr. Richard, ymrwymodd wrth y person y llwyddai efe yn yr amcan. Anfonodd Mr. Jones am dano i'r Dery yn ddioed, heb amlygu dim iddo, ond ei fod yn dymuno ei weled yn ebrwydd. Ufuddhaodd yntau i'r gwahoddiad yn y fan; ac wedi ei groesawu yn garedig, dywedodd Mr. Jones ei fod ef a'r Parch. Mr. Evans, Ficar Llanbadarn-fawr, wedi bod yn ymddiddan yn ei gylch yn ddiweddar, ac wedi penderfynu cynnyg ei ordeinio i bersonoliaeth eglwysig, lle y derbyniai fywioliaeth lawer mwy esmwyth a chyflawn nag y gallai obeithio ei mwynhau yn ei sefyllfa bresennol; a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwyatlo ei air i'r Ficar y llwyddai i'w gael i gydsynied. Dywedodd Mr. Richard, yn gadarn a dibetrus, "Y mae'r peth yn amhossibl, syr." Synodd y gŵr bonheddig yn ddirfawr, a gofynodd "Paham?" Yntau a attebodd, "Byddai cydsynio â'r cynnyg hwn, yn gyntaf, yn gwbl groes i'm cydwybod, o blegid fy mod, o egwyddor, yn ymneillduo oddi wrth yr Eglwys Sefydledig. Yn ail, yr wyf yn barnu y gallaf fod yn fwy defnyddiol gyd â'r gwaith yn y man yr ydwyf. Ac, yn drydydd, y mae cymmaint o undeb rhyngwyf a'm brodyr fel y byddai y rhwygiad yn annioddefol i'm teimladau." Nis gallai y gŵr bonbeddig feio na gwrthbrofi y rhesymau; ond dywedodd, gyd a gwedd siomedig, ei fod yn bur ffol ar ei les ei hun, trwy wrthod y fath gynnyg haelionus. Pa ddelw bynag, ni newidiodd Mr. Richard byth mo'i farn na'i benderfyniad. Yn y fl. 1813, pennodwyd Mr. Richard, ar 'annogaeth Mr. Charles o'r Bala, yn ysgrifenydd Cymmanfa Gyffredinol y Methodistisid yn y Deheubarth, yn yr hon swydd y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Y mae'n anhawdd i'r anghyfarwydd ddychymmyg faint oedd llafur y gŵr enwog a defnyddiol hwn mewn teithio, pregethu, myned i gyfarfodydd misol a chwarterol; mewn gohebiaeth De a Gogledd; mewn ysgrifenu cofnodau y cymmanfaoedd, a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac eglwysig, dros ddeng mlynedd ar hugain. Dyry'r crynhodeb canlynol o daflen a gymmerwyd o'i Ddyddiadur, o'r flwyddyn 1815 hyd 1836, ryw feddylddrych am faint y llafur dirfawr yr aeth trwyddo yn ystod y blynyddau hyny:—

Nifer traddodiad ei Bregethau,—7,048
Nifer gweinyddiad Swper yr Arglwydd,—1,360
Nifer gweinyddiad Bedydd,—824
Nifer y Cyfarfodydd Cyhoeddus y cymmerth ran ynddynt,—651
Nifer y milltiroedd a deithiodd,—59,092

Yn y fl. 1832, parodd ei lafur digyffelyb iddo gael ymosodiad o'r hun-glwyf (lethargy), sef math ar gwsg trwm, annaturiol, o'r hwn nis gellid ei lwyr ddeffro dros lawer o ddyddiau. Digwyddodd i'w fab hynaf, Edward, yr hwn oedd feddyg, fod gartref ar y pryd, a bu o gymmorth mawr iddo. Ym mis Tachwedd, 1835, aeth Mr. Richard a'i wraig i Lundain, i urddiad eu mab, Mr. Henry Richard, yn weinidog i eglwys Annibynol Marlborough Chapel, Old Kent Road, Llundain;[1]ac yn y mis canlynol (Rhagfyr), ymosododd yr hen hun-glwyf arno eilwaith, a bu'r tro hwn hefyd mewn enbydrwydd am ei einioes; ond adferwyd ef drachefn dros fyr amser. Pa wedd bynag, yr oedd arwyddion lled amlwg, weithian, fod ei afiechyd yn cryfhau, a'i gyfansoddiad yntau yn adfeilio; ac yn gynnar ym mis Mawrth, 1837, dychwelodd yr hun-glwyf ato gyd âg adnewyddol nerth. Ar y 9fed o'r mis hwnw, yr un flwyddyn (1837), rhoddes derfyn ar ei oes lafurus a defnyddiol, pan nad oedd efe ond 56 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Tregaron.

  1. ↑ Ar ddymuniad amryw o gyfeillion heddwch, rhoddes Y Parch. Henry Richard y weinidogaeth i fynu rai blynyddau yn ol, er mwyn bod yn Ysgrifenydd Cymdeithas Heddwch; a chyd i hyny, y mae efe yn Aelod Seneddol, er ys blynyddau bellach, dros Ferthyr Tydfil.