Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sy'n disgyn o'r ddaear gerllaw, ac nid oes gof ar lafar na llyfr i'r dŵr beidio canu am funud erioed. Dwfr oer hyfryd, peraidd iawn, ydyw. Ar y llethr uwchben siriol wena blodau'r effros, ar y weirglodd odditano fflamia gogoniant gold y gors. Edrych yr Aran fonheddig arno o bell, osgoa'r corwyntoedd ef wrth daro ar y llechweddau. Ni chlyw ef ond llais y dymestl, a murmur pell yr afon islaw. Ond drwy y dyfroedd llais y pistyll glywaf fi, y mae ynddo fwynder llais tad, tynerwch llais mam, a digrifwch llais brodyr oedd yn adlais o hapusrwydd na welais ei debig ond o ddail y coed mawr gysgodai'r pistyll ac amgylchoedd y tŷ. Bistyll glân cymwynasgar, o na arhosai dy ddyri fach ddiniwed yn llais miwsig mawreddog y Ddyfrdwy am byth.

Oddidraw etyb afon Liw gyfarchiad afon Dwrch. Hyfryd yw bronnydd a dyffrynnoedd Lliw. A byfryd yw miwsig ei rhaeadrau. I mi y mae rhuad Rhaeadr Mwy yn atgof am fas tyner Ap Vychan, fu'n gwrando filoedd o weithiau yn ei blentyndod ar fiwsig dwfn cyfareddol yr afon yn y coed.

Daw llu o aberoedd o'r mynyddoedd fry. Mae eu dwfr yn bur a thryloyw; maent yn ddarlun o'r dihalog a'r glân. Clywsant sŵn y gwynt yn y grug a'r rhedyn, clywsant frefiad dafad a chri aderyn a gweddi sant. Ac mor fwyn, —mor glir ac eto mor gyfoethog, yw sŵn eu dyfroedd heddyw. Dychmygaf glywed eu sain yn codi o gerddorfa lawn yr afon, hyd nes y tawa'r gerddorfa ac y sieryd yr aberoedd pell yn unig. Lleisiau pur a thyner bore oes,—llais hen freuddwydion ofnus, llais y gofyn pryderus, llais yr adduned ffyddlon, llais gobaith y dyfodol,—onid