Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael y plant i ddysgu. Medrai dau neu dri o athrawon ieuainc egniol a brwdfrydig ddod a diwydiant newydd gwerthfawr i'n harfordiroedd. Dau ddyn wnaeth hynny yn Switzerland, ac y mae eu llafur a'u hesiampl wedi dwyn golud dirfawr i'w gwlad bob blwyddyn.

Y mae rhieni Cymru yn wladgar iawn ar ddiwrnod cymanfa ac eisteddfod, yn hyfryd ganu, meddwl a theimlo yn Gymraeg. Ond ni ellwch eu cael i siarad Cymraeg gartref, ac nid yw eu cymdogion Seisnig, na'u plant hwythau, yn dod i'r cyfarfodydd. Ond cydied ysgol dda yn y plant, a daw'r cartref eto'n Gymreig ei iaith a'i ysbryd.

Bu cynnydd y Methodistiaid,—cymerwn eu hanes hwy am mai hwy yw y diweddaf,—yn rhyfeddol gyflym adeg tân ymdeithiol y diwygiadau. Yna arafodd eu camrau hyd nes iddynt, wedi hir betruso, agor dorau eu seiadau i'r plant. Ond er hynny, buasent wedi darfod am danynt cyn hyn oni bai am eu Hysgol Sul. Cydiasant yn y plant, a buont fyw. Gŵr llygad-graff oedd Thomas Gee, a gorwel ei drem ymhell. Os na chredodd mewn gweinidogaeth sefydlog, credodd â'i holl enaid yn yr Ysgol Sul. Ceisiodd ddysgu Cymru, pe mynasai wrando, mai trwy ennill y plant yr enillid y werin. Pe mynaswn weled fy enwad fy hun yn meddiannu Cymru i gyd—y peth olaf a hoffwn—trown ei holl gyfarfodydd yn Ysgol Sul. Cawn y plant a'r dyfodol.

Os ydyw Cymru i fyw fel y Gymru adnabwn, garwn, hanner addolwn ni, os ydyw'r Gymru honno i fyw, rhaid i ni gydio yn nwylaw'r plant, a'r rhai hynny yn blant y genhedlaeth hon. Aiff