Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y PLANT A'R EISTEDDFOD

LLAWER o ddefnydd wnawd o ddywediad yr hen geidwadwr gonest Dr. Johnson am ei gasbeth, yr Ysgotyn, sef y medrir gwneud rhywbeth ohono yntau ond ei ddal yn ddigon ieuanc. Nid am yr Ysgotyn yn unig y mae hyn yn wir. Hwyaf wyf yn byw cadarnach yw'm cred fod yn rhaid i addysg dyn ddechre pan yn ieuanc. Ni fyn yr hen ddysgu; neu, yn hytrach, ni fyn ddysgu cerdded llwybr newydd. Erbyn hyn nid wyf fi'n gofyn iddo wneud. Rhaid dal y plentyn. Pe byddai'r ysgolion a'r athrawon yr hyn ddylent fod, gallent newid y byd yn ystod un genhedlaeth Cymerer un peth yn enghraifft. Y mae preswylwyr ein glannau moroedd iach a phrydferth, cyrchfeydd miloedd ar filoedd o ymwelwyr haf, yn brysur iawn am rai o fisoedd y flwyddyn. Ond beth sydd ganddynt i'w wneud trwy fisoedd meithion y gaeaf, nis gwn i. Gallent droi eu dwylo at wneud teganau prydferth, o bren a chragen a defnyddiau eraill, megis cychod a llongau bychain cain. Nid oes eisiau ond cyllell morwr, y mae coed ar y llethrau a miliynau o gregin ar y traeth, ac ychydig amynedd, i roddi gwaith pleserus i ddwylo sy'n llonydd tra bo amser yn mynd. Yn lle hynny, prynnir gwerth miloedd o bunnau o deganau hagr a di-chwaeth o'r Almaen ac Awstria. Ni fyn yr hen bobl newid. Hepian welsant, a hepian wnant. Ond hawdd fai