Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ddringo iddi. Ond, a yw ei bendithion yng nghyrraedd y gweithwyr? Gwir y gall mab y gweithiwr fynd i'r Brifysgol, os medr ei dad gynhilo digon, ac os bydd yntau yn ddigon ffodus i ennill rhai o'r ysgoloriaethau prin. Ond beth am y gweithiwr ei hun, ac am ei feibion a'i ferched sydd gartref, oll yn dibynnu ar lafur oriau eu dydd? A yw addysg prifysgol o'u cyrraedd hwy?

Pan benderfynwyd ar ffurf Prifysgol Cymru, nid oedd, mewn gwirionedd, ond un cynllun derbyniol. Yr oedd colegau mewn bod yn barod, ac nid oedd dim yn bosibl ond corffori y rhai hynny'n brifysgol. A dyna wnawd. Ond yr oedd delw o brifysgol bur wahanol ym meddwl rhai o addysgwyr craffaf Cymru. Nid oedd i hon adeilad, na lle canolog. Yr oedd ei dosbarthiadau i fod ymhob tref a phentref a chwm drwy Gymru i gyd. Yr oedd ei darlithiau a'i dosbarthiadau i fod yn oriau egwyl y gweithiwr. Pe felly, a phe safasai cyfaill o Sais gyda Chymro ar ben y Wyddfa neu Bumlumon neu Fannau Brycheiniog, a phe gofynasai i ba gyfeiriad yr oedd Prifysgol Cymru, gallasai'r Cymro gyfeirio ei lygaid at bob cwm a dyffryn a dweyd,— Wele, y mae pabell Prifysgol Cymru ym mhob un o'r llennyrch a welwch o amgylch godre'r mynyddoedd hyn."

Yr oedd prifysgol felly yn rhy newydd yr adeg honno. Cenedl fyw egniol, lawn dychymyg a chywreinrwydd, yw cenedl y Cymry. Ond, er ei holl frwdfrydedd, cenedl ofnus iawn ydyw pan yn meddwl am roi cam ymlaen. Gŵyr y gall arwain cenhedloedd eraill; ond ei hen arfer llwfr yw chwilio am lwybrau wedi eu troedio'n barod, a chwilio'n aml am arweinwyr dieithr i'w thywys