Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heddwch. Dadleuaf dros godi achosion Seisnig, Ffrengig, ac Ysbeinig, mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau gwnaf rywbeth, gwnaf bopeth, er mwyn ennill eich ffafr chwi, ac hefyd sicrhau fy nghysur fy hun."

Yna blaenor y ddirprwyaeth a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, "My dear Mr. Paul, y mae'n ddiogel gennyf fy mod yn mynegi teimlad pob un o'r rhai sydd gyda mi, wrth ddywedyd bod eich ymostyngiad yn ein cymodi (clywch, clywch). Nid ydym ni byth yn euog o faddau'n frysiog i'r neb a'n tramgwyddo, ond y mae'ch edifeirwch dwys a'ch addunedau difrifol chwi yn ein temtio i dorri ar ein harfer. Y mae'r ystwythder rhagorol a ddangosasoch yn awr wedi'ch gwneud yn werthfawr yn ein golwg. Cewch weled yn fuan y bydd ein cefnogaeth ni yn fantais anhraethol i chwi. In fact, Mr. Paul, it will be the making of you.' Ni raid dweud wrthych y gallwn ni wneud heboch chwi, y pregethwyr, ond ni all y pregethwyr wneud dim ohoni hebom ni. Gan hynny, gwyn ei fyd y gŵr a ŵyr pa fodd i'n boddhau. Yn awr, rhaid i ni fyned ymaith, onid e byddwn ar ein colled. Bydd yn dda gennym gael eich cyfeillach heno yn Puncto Place; anfonir cerbyd i'ch cyrchu. Au revoir."

Enter Iwan Trevethick yn ddigofus. "Paul, Paul,