Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaenor ei enau, gan ddywedyd "Y gwas Paul, y mae gennym beth i'w ddweud wrthych. Yn gyntaf dim dymunem ddwyn ar gof i chwi fod eich het am eich pen. (Paul yn ei thynnu mewn dychryn.) Bellach at ein cenadwri:—A ydych chwi, Paul, yn barod yn awr i gyfiawnhau'r cyfeiriadau pigog a diystyrllyd a wnaethoch atom ni, y Neo-Aristocrats, yn eich llythyrau at Timotheus, ac eraill? Pwy yn y wlad hon a wynebodd y cyfoethogion ac a lwyddodd? Gwybyddwch mai ynfytyn a chablwr a hunan-leiddiad yw'r neb a ddywedo'r gwir am yr arianogion, neu wrthynt." Yna Paul, wedi llygadu ar y gefynnau yn llaw'r heddgeidwad, a lefodd â llef uchel, "O! Timotheus, Timotheus, dy annoethineb di a'm dygodd i'r cyfyngdra hwn. Paham na losgaist fy llythyrau ar ôl eu darllen? Yn awr, gan hynny, boed fy ngham i arnat ti." Yna, gan syrthio ar ei liniau o flaen y dirprwyon, ef a ddywedodd, "O feistriaid, trugarhewch, trugarhewch. Am bob gair du a ysgrifennais amdanoch, yr wyf yn addo ysgrifennu cyfrol o iaith wen. Tyngu yr wyf heddiw na ddywedaf y gwir wrthych byth mwy. Ni soniaf mwyach am 'grai nodwydd ddur fy athro, ond cyhoeddaf i'r rhai goludog fod y fynedfa i'r nefoedd cyfled â drws eglwys a chyfuwch â phyrth Thebes. Addawaf gyhoeddi heddwch pryd na bydd