Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

8. Oddi Wrth y Pregethwyr Cerddorol.—Eisiau gwybod oedd arnynt hwy pa waith oedd yn dwyn mwyaf o elw iddo ef a'i gyfaill Silas, ai canu ynteu pregethu. Mynnent hefyd iddo ddywedyd wrthynt, ar ei wir, a oedd y gerdd a ganasant gynt yn y carchar cyn goethed â'r cerddi a genir ganddynt hwy ambell nos Sadwrn mewn capelau.

9. Oddi Wrth Undeb y Gweithwyr.—Eu neges hwy oedd gofyn iddo a oedd y cynghorion a roddodd i weision y Dwyrain yn yr oes apostolaidd yn gynghorion y disgwylid i weision Prydain eu gwneud yn yr oes rydd a golau hon. Os oeddynt felly, pa fodd y cydsafai'r cyfryw rwymedigaethau ag "annibyniaeth" y gweithiwr.

10. Oddi Wrth Ddosbarth o'r Amaethwyr.— Deisyfent gael gwybod a oedd sicrwydd bod gan y creaduriaid deudroed hynny a elwir gweision a morynion, y fath beth ag enaid o'u mewn; os oedd, dymunent wybod ymhellach a oedd rhyw rwymau arnynt hwy i ymddwyn tuag atynt fel perchenogion enaid. Gofynasant hefyd onid oedd yn tybied bod y gyfryw ystafell gysgu ag oedd ganddynt i'w llanciau a'u llancesau yn eu gosod hwynt ar dir manteisiol iawn i gyflawni'r gorchymyn cyntaf yn Genesis.

11. Oddi Wrth Ddosbarth Neilltuol o'r Cyfoethogion (gyda heddgeidwad o'u hôl).—Agorodd eu