Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghariad ddyfeisio esgusion lawer i ddieuogi cyfaill." Atebodd Paul, "Ni ddywedais heddiw ond yr hyn a ddylaswn. Os mynnwch eich profi eich hun yn gyfaill i mi, esgusodwch, yn hytrach, y culni a'r llymder a ddangosais yn fy epistolau. Rhaid addef ein bod ni yn yr oes gyntaf yn llawer mwy pendant a rhagfarnllyd nag yw dynion yn yr oes hon. Os parhau a wnaf i fod megis cynt, byddaf ddeunaw can mlynedd, neu chwaneg, ar ôl yr oes. I ochel hynny, yr wyf am fy nghymodi fy hun â'r genhedlaeth hon trwy fy ngwneud fy hun ym mhob peth yn modern man. Clywais fod rhyw bethau a ysgrifennais ynghylch ffiniau barn a buchedd yn atal llawer o bobl weiniaid a gorgrefyddol rhag credu a gwneuthur yn ôl eu hewyllys. Yr wyf ar fedr esmwythau eu cydwybodau trwy symud pob maen tramgwydd oddi ar y ffordd. Yfory, mi a ym— neilltuaf i'r Hafod Unig, sydd ar fynydd Hiraethog, er mwyn cael hamdden i baratoi argraffiad newydd o'm hepistolau. Bwriadaf dynnu llawer oddi wrthynt, a chwanegu llawer atynt. Hyderaf y byddant yn eu gwedd ddiwygiedig yn, hollol ddi- dramgwydd. Gwnaf ymdrech deg i ddileu popeth sydd yn annygymod â chwaeth, ac yn aflonyddu ar gydwybod y beau monde. Cyhoeddaf y fath ryddid iddynt ag a'u dygo i deimlo na fydd yr efengyl