Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyn, yn ôl Jean Jacques Rousseau, ond megis cyfraith gaeth wrth fy efengyl newydd i." Ocha fi, beth a glywaf. Ai diau, Paul, mai chwi ydych chwi; os mai e, rhad arnoch.

Exit IWAN TREVETHICK.

O.Y.—Hwyrach y dichon i ddieithrwch y dull hwn o ysgrifennu beri i rai anghyfarwydd gamfarnu ysbryd ac amcan yr ysgrifennydd. Fe allai y dywed y rhai craff wrthynt beth yw ergyd yr ysgrif.—I.T.

ALLAN O'R Faner, GORFFENNAF 11, 1877.