Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII

GAIR AT RIENI CYMREIG

Awn allan o'm ffordd ped ymofynnwn ar hyn o bryd a yw'r iaith Gymraeg yn marw, ai nid yw; a yw hi'n haeddu byw, ai nid yw: yr hyn y mynnwn i chwi ei gofio ydyw ei bod yn fyw heddiw. Y mae yn ein plith ddigon a gormod o bobl i ddweud wrthych beth sydd gennych i'w wneuthur yn wyneb yr hyn a all fod. Fy ngwaith i yw cyfeirio'ch llygaid yn barchus at eich dyletswyddau yn wyneb yr hyn sydd yn bod. Y perygl ydyw i ni, wrth gael ein cynghori'n ddiddiwedd i ofalu dros drannoeth, anghofio bod i heddiw ei waith ei hun, a hefyd i anghofio bod y fath amser a heddiw yn bod. Swm y cyngor a roddaf i chwi yn y llythyr hwn yw, gwneuthur ohonoch yn y modd gorau yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneuthur ryw fodd. Yr ydych trwy'ch esiampl eich hun, neu trwy gyfryngau eraill, yn dysgu rhyw gymaint o Gymraeg i'ch plant. Yn awr, fy nadl yw os ydyw'r Gymraeg yn haeddu cael ei dysgu o gwbl, y dylai gael ei dysgu'n dda. Yng nghanol pobl a phethau Cymreig y mae eich plant yn byw; adnodau a chaniadau Cymraeg a ddysgwch