Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w plant ydyw eu hiaith. Ni all athro ddysgu Cymraeg i'w blentyn fel y gall ei fam ef wneud; ni all 'chwaith ddad-ddysgu'r math hwnnw o Saesneg a ddysgodd hi iddo. Cymer rhieni boen fawr i ddysgu iaith anwesog, floesg, i'w plant yn eu babandod, ond nid ymboenant ddim ar ôl hynny i'w dysgu i siarad yn groyw a phriodol. Onibai am athrawon ni cheid ond ychydig o blant a fedrai hanner deall eu Beibl, a hynny'n gwbl am na chynefinwyd hwy gartref â'i eiriau a'i ymadroddion, ac y maent ymhell o wybod y pethau hyn fel y dylent, er cael cymorth athrawon.

Y mae llawer ohonoch yn rhieni i blant na allant, oherwydd rhyw amgylchiadau, byth obeithio siarad Saesneg yn gywir a rhwydd. Cymraeg, yn ôl pob tebyg, fydd yr iaith a arferant yn bennaf hyd eu bedd. Yn awr, os oes raid iddynt siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg o gwbl, byddai'n dda iddynt allu gwneud hynny yn gywir ac yn olau. Fel y bo iaith dyn y bydd ei feddwl. Y mae'n rhaid i ddyn wrth iaith dda, nid yn unig i fynegi ei feddyliau, ond hefyd i roddi bod iddynt. Nid yn unig y mae'r meddwl yn dylanwadu ar iaith dyn, ond y mae ei iaith hefyd yn dylanwadu ar ei feddwl; ac felly, mewn modd anuniongyrchol, ar ei holl ymarweddiad. Wrth ddysgu arferion da i'ch plant,