dysgwch iaith dda iddynt hefyd; ie, cofiwch fod dysgu iaith dda yn un o'r arferion da hynny. Onid oes gennych na gallu na hamdden i ddysgu'ch plant yn athrawiaeth iaith, dysgwch hi iddynt yn yr ymarferiad ohoni. Rhoddwch iddynt o leiaf bob cefnogaeth "foesol i'w dysgu. Peidiwch â siarad yn sarhaus amdani yn eu gŵydd hwynt. Anrhydeddwch hi pe na bai ond er mwyn ei henaint.
Er mai Ymneilltuwyr yw llawer ohonoch, y mae rhyw barchedig ofn yn dyfod arnoch chwithau o flaen yr hen hen eglwys yna. Yn wir, nid gwaeth gennych gael eich gweld yn myned yn sentimental uwchben ceiniog hyll, os gellwch, trwy'r rhwd a'r baw, ddarllen Anno Domini, MCCCCI.
Daliwch yn awr ar hyn o holl hen bethau Cymru, y rhyfeddaf a'r gwerthfawrocaf yw iaith Cymru. Atolwg, chwi drigolion tref Y Faner, pa beth yw'r murddyn llwydaidd afluniaidd acw sydd wedi meddiannu'r clogwyn mwyaf golygus yn eich tref? "Dyna'r castell." I ba beth y mae o dda? "I gadw flower shows." Onid yw o'n dda i ddim arall? "O ydyw, y mae'n dda i—i—i edrych arno." Oni ddymunech gael rhywbeth mwy buddiol, megis palas, neu garchar, neu fop-asylum, neu factory, neu felin wynt, yn ei le? "Dymunem gael y cwbl, ond nid un ohonynt yn lle'r hen gastell." Paham yr