Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw eto'n meddwl am farw? Taera'r Stauntons Cymreig hyn mai marw o farwolaeth naturiol y mae'r iaith a ymddiriedwyd iddynt, ond dywed y wlad, os yw hi'n marw o gwbl, mai marw o eisiau ymgeledd a chefnogaeth y mae. Yr wyf yn ymostwng i natur, ïe, yn ei llid, oblegid y mae'r dinistr a wna natur yn naturiol, fel hyhi ei hun. Nid wyf yn gwarafun i'r glaw a'r cenllysg ddawnsio ar y cerrig mwyaf cysegredig; cânt hwy grafu'r addurniadau oddi ar yr adeilad mwyaf godidog, a lliwio ei wyneb â llwydni llawer oes; ond pan welaf ddwylo anwir yn dwyn ceibiau a llaid er mwyn rhagflaenu anian, byddaf yn cau ac yn codi fy nwrn, gan ddywedyd, "Ymaith, Vandaliaid, onid e mi a'ch. . . ." Ac nid adeilad o goed a cherrig difywyd a fynnai'r rhai hyn ei ddistrywio, ond adeilad o eiriau byw, prydferth-adeilad a wnaed nid gan ddyn, ond gan genedl, ac nid yn gyfangwbl gan genedl, eithr gan Dduw. Pan oedd Lloegr yn rhoddi ei holl nerth allan i lethu'r Gymraeg, glynodd eich hynafiaid wrthi'n gyndyn. Ond yn awr, gyda bod dysgedigion y Cyfandir wedi agoryd eu llygaid ar ei rhagoriaethau, dyma chwithau yn eich tro yn ceisio'i bwrw oddi wrthych. Ymddengys fod gwrthwynebiad ac erledigaeth yn dygymod yn well na dim arall â chwi, y Cymry. Pan erlidid yr hen Fethodistiaid o