Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos eu crefydd, yr oedd crefydd yn cynyddu. Pan ddirgymellwyd y tenantiaid i bleidleisio yn ôl ewyllys eu meistri tir, byddent yn sicr o ethol Rhyddfrydwyr; ond pan gawsant ryddid i bleidleisio yn ôl eu hewyllys eu hunain, dechreuasant ethol Ceidwadwyr. Yr unig ffordd i gael gan y Cymry i iawn wneuthur ydyw eu gorfodi—eu scriwio i gam wneuthur. Pe bai Lloegr unwaith eto'n arfer moddion treisiol i ddiddymu'r Gymraeg, buan y profid ei bod hi cyn gryfed â'r "dyn claf" o'r Dwyrain.

Anghyson iawn, debygaf i, yw gwaith llawer ohonoch yn talu athro am ddysgu gronyn o iaith farw, fel Lladin, i'ch plant, a chwithau'n eu hanghefnogi i ddysgu iaith fyw ac angenrheidiol fel y Gymraeg: iaith hefyd y mae gan eich plant gyfleustra mor rhagorol i'w dysgu. Ychydig iawn, fel y gwyddoch, hyd yn oed o ysgolheigion ein prif— ysgolion sydd wedi dysgu digon o Ladin i ddeall a mwynhau llyfr dieithr yn yr iaith honno. Nid yw dyn wrth ddysgu iaith ond yn dysgu'r moddion i gyrraedd rhyw amcan pellach. Nid dysgu Groeg a Lladin yw dechrau a diwedd dysgeidiaeth glasurol; ond y diwedd yw gwybodaeth o gynnwys yr ieithoedd hynny. Nid wyf heb gofio bod dysgu iaith