Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo'i hun yn ddisgyblaeth, ond o ddau fath o ddisgyblaeth y gorau yw'r mwyaf ffrwythlon. Gwir fod curo awyr yn ymarferiad buddiol i un peth, ond y mae curo clobos yn fuddiol i ddau beth.

Ond yr wyf, yn wir, yn tybied ynof fy hun nad y pwys a roddwch ar ddisgyblaeth feddyliol, ond eich awydd diwala i ddilyn defod ac arfer, sy'n eich cymell i daflu'ch punnoedd i logellau dieithriaid ymhongar ac anfedrus am gymryd arnynt ddysgu Lladin i'ch plant. Yr ydych chwi'n byw'n rhy agos i'r nation of utilitarians i gael dylanwadu arnoch gan ystyriaethau o'r fath yma. Beth sydd yn y ffasiwn? A beth sydd yn talu? Dyna'r unig ofyniadau sy'n ysgwyd eich enaid chwi, onid e? Ond nid oes arnaf ofn eich cyfarfod, ie, ar y tir hwn. Yr wy'n cydnabod eithriadau, wrth gwrs, ond a siarad yn gyffredinol, pa faint o aur ac arian a enillodd eich plant yng ngrym eu gwybodaeth o'r iaith Ladin? Ai am "wybodaeth" y soniais? Dyn a ystyrio! Nid mewn blwyddyn y dysgir iaith farw —yn ôl dull Prydain, beth bynnag er bod hynny o amser yn ddigon i ddysgu iaith fyw. Profiad y rhan fwyaf o'r plant ydyw, er gwaethaf yr aur a'r amser a dreuliwyd, na ddysgasant Ladin yn ddigon da i fedru ei chofio, chwaethach ei defnyddio. Ond