Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pe buasai'r amser braf y buont yn clebran mensa, mensae; amo, amas, wedi ei dreulio ganddynt i ddysgu'r Saesneg trwy'r Gymraeg, a'r Gymraeg trwy'r Saesneg, onid ydych yn meddwl y buasent erbyn hyn yn llawer mwy defnyddiol iddynt eu hunain ac i eraill? Ydyw, gyfeillion, y mae gwybodaeth drwyadl o'r Gymraeg yn talu'n well na gwybodaeth elfennol o Ladin. A phaham yr ydych yn clegar fyth a hefyd ynghylch ffasiwn? Oni wyddoch chwi fod dysgu Cymraeg yn dyfod yn beth ffasiynol? Nid deg, na deg ar hugain, o enwogion y Cyfandir sy'n ymffrostio yn eu Cymraeg. Gan ei bod hi'n cael croeso yno, caiff wahoddiad i ddyfod i Loegr yn y man. Pan ddechreuir ei dysgu yn Lloegr, fe gais epaod Cymru ei dysgu hefyd, nid yn gymaint er mwyn yr iaith. ei hun, ag er mwyn dynwared y Saeson. Os mynnwch wybod pa beth a ddigwydd i Gymru ar ôl hyn, darllenwch arwyddion Ffrainc, canys y mae'r Saeson yn dilyn y Ffrancod, a'r Cymry yn dilyn y Saeson. Os gwelwch chwi gwmwl megis cledr llaw gŵr yn codi o Ffrainc, ar Loegr y glawia gyntaf, ond ni thyn ei odrau ato nes gwlychu holl Gymru hefyd. Bydd Cymru, ie, bydd Ewrop i raddau helaeth yr hyn a fydd Ffrainc. Oddi yno y Q cychwyn y drwg a'r da. Ffrainc yw mam gwareiddiad, a Lloegr yw ei famaeth. Os nad ydych yn coelio, edrychwch i waelod eich het a darllenwch.

IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 26, 1877.