Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

creulondeb a'u gwaedgarwch heb ofni dirwy na charchar na chrocbren.

*

Tybia llawer o aelodau Cymdeithas Heddwch' mai'r rhyfeloedd ymosodol a wna'r Saeson yn ddibaid sy'n peri iddynt ymhoffi mwy nag un genedl arall mewn paffio, ymosod, gyrru rhedfeirch, hela, saethu colomennod anafedig, ac arteithio creaduriaid direswm. Ond tybiaf i nad yw'n iawn dweud bod y naill beth yn peri'r llall, er bod y ddau, wrth eu harfer, yn cryfhau'i gilydd y mae'n ddiamau.

*

Mynegodd un o'r esgobion fod yn dda ganddo weled byddin Lloegr yn atgyfodi'r hen arfer o ruthro ar y gelyn â bidogau. Y mae'n sicr mai gwaith go ddof ydyw saethu at ddyn o bell. Y mae'n fwy tebygol y tarewch yr awyr neu'r ddaear ganwaith na tharo dyn unwaith; a phe llwyddech i daro dyn â'r ganfed ergyd, y mae'n annhebygol iawn y lladdech ef. Pwy a ŵyr, gan hynny, na allwn innau ymgreuloni digon i ollwng ergyd wyllt trwy'r mwg i ganol catrawd bell o elynion Seisnig, ond yn wir, os nad wyf yn fy nghamddeall fy hun, byddai'n rhaid i mi gael anian esgob Seisnig, neu gigydd