Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymreig o leiaf, cyn y gallwn yrru llafn o ddur trwy galon unrhyw greadur.

*

Os oedd yr esgob yn awgrymu bod gan y milwr Seisnig fwy o ddawn i drin bidog nag i drin gwn, y mae ef yn iach yn y ffydd. Biff a bir yw bwyd a diod y Sais. Yn awr, y mae biff yn fwyd cryfhaol iawn, ac y mae cryfder corffol yn anhepgorol i drin bidog. Llygad da a dwylo diysgog sy'n angen— rheidiol i saethu'n union, ac y mae hi'n digwydd bod diod y Sais yn gwneud ei lygad yn bŵl a dyfrllyd, a'i law yn grynedig. Gan ei fod yn saethwr mor wael, y mae arno ofn wynebu dyn gwyn a disgybledig. Tybiodd ef yn ddiweddar fod y Boer gwyn, o hir drigo yng ngwlad dynion duon, wedi anghofio ymladd, ac am hynny ef a feiddiodd ddangos peth o'r draha tuag ato. Ond cafodd y Cristion meddw y fath gurfa gan y saethwr da hwnnw, fel y penderfynodd ynddo'i hun nad ymladdai ef byth mwyach ond â dyn du anrhyfelgar. Credir mai er mwyn adennill y prestig a'r gogoniant milwrol a gollasai Lloegr yn y Transvaal yr anfonodd hi ei chadlywydd gorau, a chynifer o'r milwyr gorau, i ddarostwng llafurwyr gorthrymedig ac annisgybledig yr Aifft.

*